PhD

Bod yn Rhan o Waith Ymchwil sy'n Arwain y Byd

Mae rhaglen PhD yr adran gyda'r fwyaf llwyddiannus yn Ewrop. Mae'r myfyrwyr sy'n gwneud gwaith ymchwil PhD yn rhan hanfodol o ddiwylliant ymchwil nodedig yr Adran. Gwelwyd hyn yn glir mewn sawl traethawd PhD arobryn, gwaith cyhoeddedig o'r radd flaenaf, a'r llwyddiant amlwg wrth chwilio am swyddi. Dyma rai o'r canlyniadau gwych sy'n deillio o weithio mewn cymuned ymchwil fyw, cymuned nad oes ei hail yn unman.

Mae'r rhaglen PhD yn ymrwymedig i ragoriaeth ysgolheigaidd, a'r cyfle i rannu syniadau ac agweddau amrywiol yn rhan greiddiol o'i gwerthoedd. Yn ogystal ag ymrwymiad i ragoriaeth ymchwil, ceir yn yr adran hefyd gefnogaeth a goruchwyliaeth na cheir eu gwell o fewn y maes.

Ceir yma grŵp o ysgolheigion a gydnabyddir ar hyd a lled y byd i oruchwylio'r gwaith ymchwil. Dyma'n fras y meysydd ymchwil y gellir eu goruchwylio:

  • Gwleidyddiaeth Ewrop a Chymru
  • Polisi Tramor ac Amddiffyn (cyfoes a hanesyddol)
  • Hanes Rhyngwladol
  • Damcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol
  • Hanes Milwrol a Strategol
  • Damcaniaeth Ryngwladol Normadaidd
  • Astudiaethau Diogelwch

Mae'r Adran yn croesawu prosiectau ymchwil PhD o fewn un neu fwy o'r meysydd yma neu brosiectau rhyngddisgyblaethol. Croesawir hefyd broseictau sy'n herio syniadau traddodiadol y ddisgyblaeth ac yn ymwchilio syniadau a dulliau amgen.