Dychmygu Dyfodol 

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cyfuniad arbennig o ddysgu rhagorol a chymuned fywiog a brwdfrydig sy'n croesawu myfyrwyr o bob rhan o'r byd. Dyma ganolfan ragoriaeth y DG ym maes cysylltiadau rhyngwladol fel y dangoswyd yn Ymarfer Asesiad Ymchwil 2008.  Mae rhaglen israddedig yr adran yn rhan bwysig iawn o’i hanes, rhaglen sy'n galluogi myfyrwyr i archwilio'r byd tra’n darganfod eu hunain. Er mwyn cerdded y llwybr hwn nid does angen dim ond diddordeb yn y byd a'i ddyfodol.

Mae hud profiad Aberystwyth i’w ddarganfod mewn addysg o’r radd flaenaf sy'n hybu’r meddwl beirniadol. Ceir yma hefyd amgylchedd dysgu cyfeillgar sy'n barod iawn i groesawu syniadau newydd a rhydd. Mae'r gwerthoedd hyn i gyd yn nhraddodiad cyfoethog yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn adlewyrchu gweledigaeth ei sefydlydd, yr Arglwydd Davies o Landinam, sef gweithio at drefn fyd-eang mwy cyfiawn a heddychlon.

Am fwy o wybodaeth gellir lawrlwytho'r Llawlyfr Israddedig Gwleidyddiaeth Ryngwladol.