Cyllid

Cyfleoedd Cyllido PhD i Ddechreuwyr yn 2021/22

Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cloriannu’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a strategaethau datblygu economaidd cyfoes

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth PhD uchod a gaiff ei goruchwylio ar y cyd rhwng Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth i gychwyn 21 Medi 2020. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cwblhau gradd israddedig (isafswm dosbarth 2:1) ynghyd â gradd meistr cyn dechrau ar y ddoethuriaeth.  Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd a chynhaliaeth dros gyfnod o 3 blynedd.

Manylion pellach yma.

Cyllidir yr ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a cheir manylion am weithgaredd y Coleg ar www.colegcymraeg.ac.uk.  

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yw 12.00 (canol dydd) 31 Gorffennaf 2020.

Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC

Mae’r ysgoloriaethau ymchwil yn dechrau ym mis Hydref 2022 a byddant yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£ 15,609 y flwyddyn yn 2021/22 ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a ddiwedderir bob blwyddyn); ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol, er y gall elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chyfuno’ gan alw am geisiadau ar wahân o 2022 ymlaen. Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth ymchwil, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd ar gyfer interniaethau, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Am wybodaeth bellach, ewch i'r dudalen we bwrpasol yma.

Partneriaeth Hyfforddi Doethuriaethol Cymru ESRC

Mae’r ysgoloriaethau yn cychwyn ym mis Hydref 2022 a byddant yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£ 15,609 y flwyddyn yn 2021/22 ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a ddiwedderir bob blwyddyn); ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol, er y gall elfen o’r gronfa hon gael ei ‘chyfuno’ gan alw am geisiadau ar wahân o 2022 ymlaen. Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd ar gyfer interniaethau, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Am wybodaeth bellach, ewch i'r dudalen we bwrpasol yma.

Ysgoloriaethau PhD AberDoc

Mae’n bleser gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wahodd ceisiadau ar gyfer ysgoloriaethau PhD AberDoc i ddechrau yn 2021.

Bydd y rhai sy’n ennill Ysgoloriaeth AberDoc yn derbyn grant am am hyd at dair blynedd a fydd yn cynnwys eu ffioedd dysgu (hyd at gyfradd y Deyrnas Unedig o £4,407 y flwyddyn*), lwfans cynhaliaeth sydd o ddeutu £15,285 y flwyddyn* a mynediad at gronfa deithio/ymchwil (uchafswm o £500 y flwyddyn*). Bydd yr ysgoloriaethau’n dechrau ym mis Medi 2021.

Byddai’n rhaid i ddeiliaid y dyfarniad o’r UE a thu allan i’r UE dalu’r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu’r Deyrnas Unedig a ffioedd dysgu i fyfyrwyr o’r UE neu du allan i’r UE o’u hysgoloriaeth. Fodd bynnag bydd 3 Ysgoloriaeth Llywydd ychwanegol ar gael a fyddai’n talu’r gwahaniaeth hwn yn y ffioedd dysgu. Byd yr ysgoloriaethau hyn yn cael eu dyfarnu i’r tri ymgeisydd gorau o’r UE/rhyngwladol yng nghystadleuaeth AberDoc.

Yn ogystal, mae modd i fyfyrwyr ymchwil doethurol yn aml wneud gwaith dysgu. Byddant yn cael eu talu’n unol â’r gyfradd a delir i staff dysgu fesul awr. Mae posibilrwydd o gyfleoedd gwaith cyflogedig eraill hefyd, megis cynorthwyo gwaith ymchwil, marcio, dennu myfyrwyr a gweithgareddau cymorth.

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion, Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk) gydag unrhyw ymholiadau.

Y dyddiad cau i ymgeisiadau AberDoc i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw 31 Ionawr 2022.

Noder mai dyddiad cau penodol i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw hwn.

*Mae gwerth y dyfarniad yn amodol ar gadarnhad ar gyfer 2022-2023.

Gwybodaeth bellach ynghylch sut i gyflwyno cais.

Gwybodaeth bellach ynghylch ysgoloriaethau AberDoc.

Partneriaeth Hyfforddi Doethurol AHRC 2017

Prifysgol Aberystwyth yw un o’r partneriaid ym Mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) De a Gorllewin Lloegr a Chymru ac mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn y celfyddydau a’r dyniaethau, gan gynnwys ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy’n cyd-fynd â nodau’r Bartneriaeth. Bydd myfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau cyllid gan y Bartneriaeth hon hefyd yn gallu manteisio ar oruchwylio ar draws prifysgolion a hyfforddiant arall sydd ar gael mewn mwy nag un brifysgol o fewn y Bartneriaeth.

I gael manylion am sut i ymgeisio am gyllid gan y Bartneriaeth hon ewch i wefan SWW DTP i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys meysydd pwnc.

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy safle SWW DTP.

  • 25 Ionawr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bob ysgoloriaeth ymchwil sy’n cychwyn ym mis Medi 2021.

Mae dyfarniadau’n cwmpasu ffioedd dysgu gwerth 4,407 y flwyddyn (neu swm rhan amser cyfatebol) a grant cynhaliaeth o £15,285 y flwyddyn (neu’r ffigwr cyfwerth rhan amser).

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion, Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk) gydag unrhyw ymholiadau.

 

Sut i Ymgeisio

Gellir cyflwyno ceisiadau i astudio am PhD ar-lein neu gellir lawrlwytho ac argraffu’r ffurflenni. Gweler Wefan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion am fanylion llawn. Hefyd rhaid cyflwyno cynnig ymchwil nad yw’n fwy na 1,500 o eiriau, dau dystlythyr a thrawsgrifiadau academaidd. Nid oes ffurflenni cais ar wahân ar gamau cyntaf cyllido.

Noder bod dyddiadau cau gwahanol ar gyfer y gystadleuaeth AberDoc a’r cystadleuthaeu ESRC ac AHRC. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cais cyflawn cyn y dyddiad cau.