Gemau Argyfwng

Mae’r Gemau Argyfwng a drefnir yn flynyddol gan yr Adran yn ddigwyddiadau arbennig o boblogaidd. Maen nhw’n cael eu cynnal yng Ngregynog, ger y Drenewydd sef lleoliad cartref yr Arglwydd Davies, sylfaenydd yr Adran.

Ein hadran ni oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i ddefnyddio efelychiadau argyfwng ac mae wedi bod yn eu cynnal ers y 1960au! Mae’r gemau argyfwng yn cysylltu'r hyn a ddysgir yn y dosbarth â chymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol y byd go iawn. Nid gêm ryfel mo hon, ond ymarfer mewn diplomyddiaeth, trafod a defnyddio’r dychymyg i ddatrys y sefyllfa. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r Gemau Argyfwng wedi bod yn seiliedig ar argyfwng ffoaduriaid Môr y Canoldir, profion niwclear yng Ngogledd Corea, cyrchu Capitol yr Unol Daleithiau, Cwpan y Byd Qatar, a phenderfyniad y DU i adael yr UE. Mae myfyrwyr yn dysgu sgiliau meddwl strategol, sgiliau trafod a gwaith tîm.