Cymdeithasau Myfyrwyr

Ar hyn o bryd, mae tair prif gymdeithas myfyrwyr o fewn yr Adran

Y Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol 

Cymdeithas sy’n cael ei threfnu gan fyfyrwyr yw hon ac sy’n gyfrifol am ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol neu sydd â diddordeb yn y pwnc. Pwrpas y gymdeithas yw archwilio amrywiol faterion yn ymwneud â gwleidyddiaeth ryngwladol, dan arweiniad a chyfarwyddyd y myfyrwyr eu hunain. Ymhlith y gweithgareddau mae dadleuon, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai. Mae elfen gymdeithasol bwysig iawn i’w gweithgaredd hefyd gan gynnwys Dawns Flynyddol.

Cymdeithas Cenhedloedd Unedig

Bwriad Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yw hybu ymwybyddiaeth o’r Cenhedloedd Undedig, gweithgareddau cysylltiedig a materion rhyngwladol. Mae’n cynnal digwyddiadau efelychiad pan fo myfyrwyr, sy’n cynrychioli gwladwriaethau gwahanol, yn  dadlau am faterion rhyngwladol cyfoes fel fyddai’n digwydd yn y Cynulliad Cyffredinol neu’r Cyngor Diogelwch y CU. Mae aelodau’r gymdeithas yn cymryd rhan yn y digwyddiadau Model CU blynyddol sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas y DU. Gall aelodau’r gymdeithas wneud cais i’r UNA (UK) i astudio ac ymweliadau ac i gymryd rhan mewn cyrsiau hyrwyddo heddwch y Cenhedloedd Unedig.

Cymdeithas Amnest Ryngwladol Aberystwyth

Mae’r Gymdeithas Amnest Ryngwladol yn ceisio codi ymwybyddiaeth o a hyrwyddo hawliau dynol drwy gyfrwng ystod o ddigwyddiadau a thrafodaethau.