Interstate

Interstate yw’r cyfnodolyn gwleidyddiaeth hynaf a reolir ac a olygir gan fyfyrwyr yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Interstate yn cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith, yn ogystal â gwneud gwaith golygu a chyhoeddi sy’n meithrin sgiliau proffesiynol a chyflogadwyedd hynod o ddefnyddiol.

Os ydych yn fyfyriwr un ai o’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol neu Brifysgol Aberystwyth, mae croeso i chi ymuno gyda thim golygyddol Interstate, ebostiwch interstate1965@gmail.com neu interstate@aber.ac.uk.