Gwobrau

Mehefin 2023

Y Gwasanaethau Gwybodaeth yn cyflawni ardystiad Hanfodion Seiber yn dilyn asesiad ym mis Mehefin 2023

Mae Hanfodion Seiber yn gynllun sicrhau gwybodaeth Llywodraeth y DU a weithredir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae'n annog sefydliadau i fabwysiadu arfer da mewn diogelwch gwybodaeth ac mae'n cynnwys fframweithiau sicrwydd a chyfres syml o reolaethau diogelwch i amddiffyn rhag bygythiadau ar-lein. Mae'r ardystiad hwn yn dangos ymroddiad y Gwasanaethau Gwybodaeth i sicrhau'r lefel uchaf o ddiogelwch ar gyfer y systemau a'r rhwydweithiau y mae'n eu rheoli.

Mae'r achrediad yn bwysig i'r Brifysgol. Mae Hanfodion Seiber yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o gontractau'r Llywodraeth, gan gynnwys ymchwil a gwasanaethau eraill a ddarperir gan y Brifysgol ac mae'n cefnogi ceisiadau am gyllid ymchwil.

Cwmpas yr ardystiad presennol yw adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol. Mae'r holl staff yn yr adran bellach wedi'u hachredu ar gyfer cydymffurfio â Hanfodion Seiber ers 29 Mehefin 2023. Mae gwaith caled ac ymrwymiad yr holl staff cymorth TG i gyflawni hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Mae tystysgrif Hanfodion Seiber y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael i'w lawrlwytho yma a gellir dod o hyd i'n statws trwy Chwiliad Tystysgrif Hanfodion Seiber IASME Rydym wrthi'n gweithio tuag at gydymffurfiad ehangach ar draws y Brifysgol yn ogystal â gwelliannau parhaus i allu ailardystio ar gyfer Hanfodion Seiber ar gyfer y Gwasanaethau Gwybodaeth ym mis Mehefin 2024.

Ail-ddilysu Mai 2023

Gwnaeth Gwasanaethau Gwybodaeth gyrraedd safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid (CSE) am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2015 ac maent wedi parhau i ail-ddilysu yn erbyn y safon bob blwyddyn.  Mae’r CSE yn safon gan y llywodraeth ar gyfer ysgogi newid cwsmer-ganolog o fewn sefydliadau. Mae’r safon yn asesu dealltwriaeth cwsmeriaid, y diwylliant cwsmer-ganolog, bod y wybodaeth a ddarperir yn bodloni anghenion  cwsmeriaid yn ogystal â phrydlondeb ac ansawdd y gwasanaeth.

Nododd yr Aseswr ym mis Mai 2023 “Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi gwella ac ymestyn eu strategaeth ar gyfer yngynghori a chysylltu gyda defnyddwyr  trwy gyflwyno gweithgareddau wedi’u targedu”

Mae Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn arddangos ymrwymiad Gwasanaethau Gwybodaeth i barhau i wella ein gwasanaeth i’n holl gwsmeriaid. Ym 2023 dyfarnwyd 12 Rhagoriaeth Uwch i Wasanaethau Gwybodaeth - dyma'r meysydd lle'r ydym yn dangos ein bod yn torri tir newydd neu lle yr ydym yn cael ein hystyried yn arweinydd yn ein sector.   

Ebrill 2016

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ennill Gwobr Aur yn y rhaglen Effaith Gwyrdd.

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi cymryd rhan yn y rhaglen Effaith Gwyrdd ers i’r Brifysgol ddechrau cymryd rhan yn 2013. Enillodd wobr arian yn 2014 a gwobr aur yn 2015, ac enillodd wobr arbennig am gyflwyno cynllun blwch llysiau organig yn 2014. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn un o’r adrannau mwyaf yn y Brifysgol sy’n cymryd rhan weithredol yn y rhaglen Effaith Gwyrdd. Mae’n anelu at leihau ôl troed carbon y Brifysgol ac effeithiau amgylcheddol eraill drwy annog, gwobrwyo a dathlu ymarferion amgylcheddol da.

Mehefin 2015

Mae partneriaeth sy’n cynnwys gwasanaethau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch Times Higher Education 2015.

Mae Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch y Times Higher Education yn cydnabod rhagoriaeth mewn rheolaeth ac arweiniad ymysg sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) – sydd yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, pob hun o’r 10 sefydliad addysg uwch yng Nghymru a llyfrgelloedd Cymreig y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – yn bartneriaeth a sefydlwyd er mwyn darparu system rheoli llyfrgell ar gyfer yr holl wlad.

Hwn yw’r prosiect cyntaf o’i fath yn y DG a chafodd gefnogaeth trwy gyllid gan CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) a Jisc (Joint Information Systems Committee).

Disgrifiwyd y system gan feirniaid y Gwobrau fel “prosiect uchelgeisiol” ac roeddent yn llawn edmygedd o botensial y cynllun i ehangu mynediad i adnoddau, wrth leihau costau caffael ac isadeiledd. 

Bydd y system reoli llyfrgell newydd yn cael ei chyflwyno’r raddol ar draws y wlad, a bydd Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ei defnyddio ar yr 20fed o Orffennaf 2015.  Bydd y system yn weithredol ar draws holl sefydliadau WHELF a llyfrgelloedd y GIG Cymreig (trwy Brifysgol Caerdydd) erbyn diwedd 2016.