Portffolio Gwasanaethau

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ddull integredig o reoli a chyflenwi gwasanaethau gwybodaeth. Y Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n cadw golwg ar ddarparu gwasanaethau llyfrgell ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil, gwasanaethau TGCh at ddibenion academaidd, a gwasanaethau’r cyfryngau, gan gynnwys y rheiny sydd yn yr ystafelloedd dysgu ar yr amserlen ganolog. Caiff yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth ei rheoli gan Gyfarwyddwr, a’i gefnogi gan staff sydd â phrofiad yn y Gwasanaethau Llyfrgell, TGCh a Chyfryngau; mae’r adran yn cynnig gwasanaethau sydd wedi’u llunio i wneud pethau’n hawdd i ddefnyddwyr greu, storio, rhannu, darganfod a defnyddio gwybodaeth.

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

ABW

ABW yw’r system gronfa ddata sydd y tu ôl i swyddogaethau Adnoddau Dynol, Cyflogres a Chyllid y Brifysgol. Caiff y system ei rheoli a’i chynnal gan y Tîm Cymwysiadau ac Integreiddio. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ac uwchraddio systemau, llunio adroddiadau a datblygu swyddogaethau ychwanegol, yn ogystal â phrosesau i integreiddio’r systemau hyn ag AStRA a systemau eraill Prifysgol Aberystwyth

Rhagor o wybodaeth: Aber People

Amserlenni

Y Swyddfa Amserlenni sy’n gyfrifol am lunio a chyflwyno amserlen academaidd y Brifysgol sydd ar gael drwy gofnodion ar-lein myfyrwyr, amserlen academaidd Prifysgol Aberystwyth ar-lein (ato@aber.ac.uk) ac i-CAL. Y Swyddfa Amserlennu sydd hefyd yn llunio amserlenni arholiadau’r Brifysgol, mewn ymgynghoriad ag adrannau academaidd a Phrif Arolygydd yr Arholiadau, ac mae’n cynnig gwasanaeth archebu ystafelloedd yn ganolog ar gyfer adrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol a chymdeithasau myfyrwyr. Mae holl ystafelloedd dysgu canolog y Brifysgol wedi’u rheoli gan y Swyddfa Amserlenni (http://www.aber.ac.uk/en/timetable/zones/), er bod ystod ehangach o ystafelloedd sydd wedi’u rheoli gan adrannau, megis labordai a mannau ymarfer, hefyd yn gallu cael eu harchebu drwy gyfrwng meddalwedd amserlennu canolog, sef Scientia Enterprise Timetabler/Syllabus Plus.

Rhagor o wybodaeth: Amserlenni

Argraffu, Llungopïo a Sganio

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig cyfleusterau argraffu, llungopïo a sganio hunanwasanaeth mewn lleoliadau ar draws pob campws, gyda rhai ohonynt ar gael 24 awr y dydd. Mae’r gwasanaeth yn darparu ar gyfer argraffu, copïo a sganio du a gwyn a lliw. Mae sganio ar faint papur A4 ac A3 i’ch cyfeiriad e-bost a sganio o yriant USB ac iddo hefyd ar gael.

Rhagor o wybodaeth: Argraffu, Llungopïo a Sganio

AStRA

Mae Tîm AStRA yn datblygu, cefnogi ac yn cynnal System Cofnodion a Derbyn Myfyrwyr Aberystwyth (AStRA). Mae’r system hon yn gronfa ddata yn cefnogi’r prosesau a’r cofnodion y tu ôl i gylch oes myfyrwyr – o’u hymholiadau cyntaf drwy eu derbyn, cofrestru, arholiadau hyd at raddio.  Mae’r system yn cefnogi pob math o fyfyriwr gan gynnwys israddedigion, ôl-raddedigion, TAR, Dysgwyr o Bell, Dysgwyr Gydol Oes, y Ganolfan Saesneg Ryngwladol, ac ati.  Mae hefyd yn cynnwys cronfeydd data y Cynlluniau Astudio a’r Modiwlau, y system Llety, a Chyllid i Fyfyrwyr. Mae data o’r system hon yn cysylltu drwy ystod o gymwysiadau eraill gan gynnwys staff, datblygu staff, cyllid, Blackboard, amserlenni, marchnata, llyfrgelloedd, rhestrau darllen, rhestrau e-bost, mynediad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth, y Ganolfan Chwaraeon, gyrfaoedd, Undeb y Myfyrwyr, Cymorth i Fyfyrwyr, ac ati.  Mae’r system hefyd yn darparu data statudol amrywiol ar gyfer HESA, CCAUC, ac ati.

Rhagor o wybodaeth: Systemau Gwybodaeth Busnes

Casgliadau Deunyddiau

Mae gan lyfrgelloedd y Brifysgol dros 807,166 o gyfrolau print, llawer o ddeunydd nad ydynt ar ffurf print ac mae’n gallu cynnig mynediad i oddeutu 50,000 o deitlau cyfnodolion. Mae cofnodion llyfryddiaethol yr holl eitemau ar gael trwy Primo, sef catalog y llyfrgell sy’n ymdrin â phob agwedd ar brynu, catalogio a chylchredeg. Gellir cael deunyddiau nad ydynt ar gael yn y Brifysgol na Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflym drwy ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau. Yn 2012/13 cafodd 422,375 o lyfrau eu benthyca, a llawer o’r rhain wedi mynd drwy system effeithlon a chyflym o ddefnyddwyr yn hunanfenthyca ac yn hunanddychwelyd yr eitemau.

Yn ystod 2014/15 gwariwyd dros £1.6 miliwn ar brynu deunyddiau. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gweithio’n agos â’r adrannau academaidd wrth ddewis deunyddiau newydd i’r llyfrgell. Mae’r rhain yn seiliedig ar restrau darllen cyrsiau sy’n cael eu huwchlwytho gan yr adrannau dysgu ar Talis Aspire a bydd unrhyw deitlau nad ydynt mewn stoc, neu os nad oes digon o niferoedd, yn cael eu harchebu yn awtomatig gan y llyfrgell. Os defnyddir y Gyllideb Ddisgresiynol i dalu am eitemau, yna caiff y rhain eu harchebu drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein Cais i Brynu.

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn gallu darparu copïau wedi’u digido o eitemau sydd ar restrau darllen cyrsiau, yn dibynnu ar ganiatâd hawlfraint, cyfyngiadau trwydded a chronfeydd costau. Gellir trefnu bod y rhain ar gael i’r myfyrwyr drwy AberDysgu Blackboard, sy’n golygu y gall pob myfyriwr gael mynediad i’r testun.

Oherwydd datblygiadau technolegol diweddar, rydym bellach yn cynnig mynediad i fwy na 125,000 o e-lyfrau drwy gyfrwng nifer o wahanol lwyfannau. Rydym yn ymdrechu’n gyson i gynyddu’r amrywiaeth a nifer y llyfrau sydd ar gael i’n defnyddwyr, ac anogir israddedigion ac ôl-raddedigion i archebu llyfrau sydd eu hangen arnynt ond nad ydynt ar y rhestrau darllen drwy ein hymgyrch Mwy o Lyfrau, ac yn 2014/15 cafodd £5,000 ei wario ar eu hawgrymiadau.

Rhagor o wybodaeth: Casgliadau

Cyfleusterau E-bost

Y gwasanaeth e-bost i fyfyrwyr yw Microsoft Office 365, sy’n cynnwys cleient e-bost ar y we sydd â chalendr a chysylltiadau, storfa ffeiliau Skydrive, rhaglenni gwe Office a 25GB o gwmwl storio ar gyfer negeseuon e-bost a dogfennau.

Y gwasanaeth e-bost i staff yw Microsoft Exchange. Mae’r fersiwn presennol (Exchange 2010), yn cynnwys cefnogaeth i fyrddau gwaith, gliniaduron a dyfeisiau symudol megis ffonau clyfar a ffonau PDA ar gyfer e-bost, calendrau a chysylltiadau.

Mae unrhyw negeseuon e-bost sy’n dod i mewn yn mynd drwy hidlyddion Microsoft i chwilio am negeseuon ‘sbam’ a firysau.

Rhagor o wybodaeth: Ebost a Theleffonau

Cyfleusterau Fideogynadledda

Mae chwech o adnoddau fideogynadledda ar gael ar gyfer cynadledda yn ymwneud â dysgu, addysgu a chynadledda gweinyddol; mae gan bob adnodd gymhorthion dysgu gan gynnwys byrddau gwyn rhyngweithiol mewn dau o’r lleoliadau a chamerâu dogfen ym mhedwar o’r lleoliadau. Mae’r stiwdios hyn yn caniatáu mynediad o bell o safon uchel drwy gysylltiad IP. Mae cysylltiad ISDN yn bosibl ond gan ei bod yn rhaid i holl gostau ISDN gael eu talu gan y cwsmer, mae’n well defnyddio cysylltiad IP pan fo’n bosibl.

Rhagor o wybodaeth: Fideogynadledda

Cymorth a Chefnogaeth

Mae’r desgiau TGCh a desgiau ymholiadau’r llyfrgell i’w cael mewn nifer o leoliadau ar Benglais ac yn Llanbadarn, ac maent yn rhoi cyngor i staff a myfyrwyr ar faterion sy’n ymwneud â’r llyfrgell a TGCh. Gellir gwneud ymholiadau hefyd trwy ffonio, e-bostio a sgwrs sydyn. Gall y desgiau cymorth hyn gyfeirio ymholiadau naill ai at arbenigwyr TG neu at lyfrgellwyr pwnc pan fo angen. Y tu allan i’r oriau agor craidd, gellir gwneud ymholiadau drwy beiriant ateb neu e-bost ac ymdrinnir â’r ymholiadau hyn pan fydd y desgiau yn agor nesaf. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn cynnig cyngor ar-lein cynhwysfawr ar faterion yn ymwneud â TG a’r llyfrgell ar ffurf “Cwestiynau a holir yn aml”

Rhagor o wybodaeth: Cwestiynau a holir yn aml

Cyngor ar Brynu a Gwasanaeth Cynnal a Chadw TG

Gall gwasanaeth pwrcasu TG roi cyngor ar ddewis meddalwedd a chyfrifiaduron personol a pha rai i’w prynu. Mae hefyd yn gwerthu amrywiaeth o getris arlliw ar gyfer argraffyddion laser. Yn ogystal â hyn mae yma offer argymelledig i’w prynu.

Gellir prynu eitemau cyffredin megis CDs a DVDs gwag, co’ bach, papur, addaswyr plwg rhyngwladol a cheblau rhwydwaith o Lyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry, ac mae gweithdy ar gael sy’n cynnig gwasanaethau atgyweirio ac uwchraddio ar gyfer offer PA.

Gwasanaethau Amlgyfryngau

Rydym yn cynnig dewis mawr o gyfleusterau i roi modd i staff a myfyrwyr ddefnyddio’r cyfryngau yn eu gwaith. Mae offer ar gyfer golygu sain, fideo a lluniau ar gael ar bob un o’n cyfrifiaduron cyhoeddus gan ddiwallu’r rhan fwyaf o anghenion defnyddwyr. Mae staff a myfyrwyr yn gallu benthyg y stoc cyfryngau am gyfnod byr yn rhad ac am ddim, a’r stoc yn cynnwys amrywiaeth o gamerâu digidol, camerâu fideo digidol, gliniaduron, cyfrifiaduron, a thaflunyddion fideo/data, gweler Adran 9.

Rydym hefyd yn cynnig ‘gwasanaeth cefnogi’ ar gyfer gweithgareddau amlgyfrwng sef bod aelod o staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio’r dechnoleg.

Er mwyn helpu darlithwyr i baratoi deunyddiau addysgu, rydym yn tanysgrifio i Gyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain, Cynllun Recordio oddi ar yr Awyr y Brifysgol Agored a’r Asiantaeth Recordio Addysgol. Mae gennym hefyd weinydd ffrydio sy’n cysylltu ag AberDysgu Blackboard i staff fedru uwchlwytho eu recordiadau eu hunain.

Rhagor o wybodaeth: Gwasanaethau’r Cyfryngau

Gwasanaethau Benthyca Offer

Mae’r Gwasanaethau Benthyca Offer yn rhoi modd i staff a myfyrwyr fenthyca eitemau yn rhad ac am ddim am gyfnod byr o amser. Mae’r rhain yn cynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron netbook, darllenwyr E-lyfrau, camerâu troi ac offer ffotograffiaeth ddigidol neu fideo eraill, yn ogystal â ffonau cynadledda a’r system bleidleisio Qwizdom a ddefnyddir yn aml wrth addysgu.

Rhagor o wybodaeth: Benthyca offer

Gwasanaethau Cyfrifiadurol Canolog

Mae’r Gwasanaethau TGCh yn cael eu darparu gan rwydwaith o dros 800 o gyfrifiaduron sy’n rhedeg Microsoft Windows 7. Mae pob cyfrifiadur yn cynnig yr un rhyngwyneb cyson i ddefnyddwyr gyda chymorth i weithio’n ddwyieithog ac mae gan yr holl systemau fynediad i’r rhwydwaith a’r rhyngrwyd.

Mae’r cyfrifiaduron cyhoeddus wedi’u lleoli mewn 23 o ardaloedd gwahanol; mae’n bosibl llogi 7 ohonynt ar gyfer dysgu, mae 16 ohonynt bob amser ar gael ar gyfer gwaith academaidd unigol gydag ardal wedi’i chadw i fyfyrwyr sydd â gofynion hygyrchedd. Mae nifer y cyfrifiaduron ym mhob ardal yn amrywio o 4 i 100 ac mae rhai ardaloedd, yn arbennig y rhai yn y neuaddau preswyl, ar gael i’w defnyddio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ar hyn o bryd mae gan yr holl gyfrifiaduron fonitorau sgrin llydan 22” ac maent yn rhedeg Windows 7. Mae’r holl gyfrifiaduron cyhoeddus ar gael i israddedigion ac uwchraddedigion a phob aelod o staff.

Mae amrywiaeth eang o feddalwedd ar gael i chi eu rhedeg ar gyfrifiaduron yn ystafelloedd cyfrifiaduron y brifysgol gan gynnwys:

  • Microsoft Office 2010 Enterprise Edition (Word, Access, PowerPoint, Excel, Publisher, Groove, InfoPath, OneNote, SharePoint Designer) gyda’r rhan fwyaf yn cynnig cymorth llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;
  • Adnoddau amrywiol ar gael drwy borwyr gwe (gan gynnwys Web mail);
  • Adobe Acrobat (darllenydd ffeiliau);
  • Keypoint a PinPoint (meddalwedd arolwg);
  • Minitab ac SPSS (pecynnau dadansoddi ystadegol);
  • Java (offer datblygu);
  • Visual Studio 2010 (Ieithoedd Rhaglennu - Visual C++, C#, J# a Visual Basic);
  • Endnote (offer ar gyfer cyhoeddi a rheoli llyfryddiaethau);
  • Primo (ein catalog Llyfrgell);
  • Blackboard (Amgylchedd Dysgu Rhithwir);
  • Putty a meddalwedd dynwarediad X terminal;

Offer Cyflwyno ac Amlgyfrwng Amrywiol

Gwasanaethau E-ddysgu

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig amrywiaeth o dechnolegau i fyfyrwyr a staff er mwyn ehangu eu dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys Blackboard, offer e-gyflwyno Turnitin (Adroddiadau Gwreiddioldeb ac adborth dwys), blociau adeiladu Campus Pack ar gyfer Blackboard (blogiau, wicis, cyfnodolion, a phodlediadau), Recordio Darlithoedd AberCast gyda Panopto, gweinyddwr cyfryngau ffrydio Helix, Questionmark Perception (ar gyfer arholiadau ar-lein adolygol a ffurfiannol), Qwizdom sef system bleidleisio yn y dosbarth (gan gynnwys Qwizdom Virtual Remotes i fyfyrwyr allu defnyddio eu dyfeisiau eu hunain), yn ogystal â chymorth ar gyfer defnyddio cyfryngau wrth ddysgu ac addysgu. I gael enghreifftiau o ddysgu trwy gyfrwng technoleg ac astudiaethau achos o arferion da gan ein staff edrychwch ar Nexus, ein gwefan arferion da yn www.nexus.aber.ac.uk. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu a chynnal y gweinyddwyr sy’n rhedeg AberDysgu Blackboard, Panopto, a Questionmark Perception.  Yn ystod haf 2013, cynhaliwyd 1151 o arholiadau unigol ar-lein, bu i 779 o fyfyrwyr sefyll arholiadau, ac roedd yr arholiad mwyaf ei faint wedi arholi 362 o fyfyrwyr.

Caiff y gwasanaethau E-ddysgu eu darparu ar y cyd gan staff Grŵp E-wasanaethau a Chyfathrebu a staff Datblygu Cymwysiadau, a hwy sy’n gyfrifol am osod, cynnal a chadw, datblygu, datrys problemau, a rhedeg y systemau o ddydd i ddydd. Rhoddir cymorth i ddefnyddwyr drwy e-bost, ffôn, Cwestiynau a Holir yn Aml a thudalennau ar y We. Ar wefan Nexus ceir cyfres o astudiaethau achos a chyngor sydd wastad yn datblygu i staff ynghylch defnyddio technoleg yn addysgol i wella dysgu. Mae sesiynau hyfforddi i staff a myfyrwyr yn cael eu datblygu a’u cynnal, yn ogystal ag ymgynghoriadau a sesiynau wedi’u trefnu’n arbennig ar gais.

Rhagor o wybodaeth: E-ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Gwasanaethau i Ddefnyddwyr o Bell

Mae gwasanaeth Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) ar gael sy’n cynnig mecanwaith diogel i ddefnyddwyr ddefnyddio gwasanaethau canolog trwy gysylltiad dilys. Caiff hwn ei ddefnyddio gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau drwy’r adnodd rhwydwaith diwifr, o gartref ar eu cyswllt band eang eu hunain, neu o unrhyw le ar y Rhyngrwyd.

Rhagor o wybodaeth: VPN

Gwasanaethau Llyfrgell Electronig

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, symudwyd fwyfwy at gyhoeddi electronig, yn hytrach nag argraffu. Mae ein casgliadau yn adlewyrchu’r tueddiad hwn, ac rydym nawr yn cynnig mynediad at gyfoeth helaeth o adnoddau electronig, gan gynnwys dros 40,000 o deitlau e-gylchgronau, 100,000 o e-lyfrau, a dwsinau o gronfeydd data. Gellir cael mynediad at yr adnoddau hyn ar y campws ac oddi arno, ac maent ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd o’r wythnos.

Yn ogystal â’r adnoddau hyn ar y we, rydym hefyd yn cynnal Porth Ymchwil Aberystwyth, ble gallwch gael gafael ar gynnyrch ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth wrth law i roi cymorth i chi gael gafael ar adnoddau electronig, a gellir cysylltu â nhw wrth y ddesg gymorth, neu drwy sgwrs sydyn (instant chat), dros y ffôn neu e-bost.

Rhagor o wybodaeth: Adnoddau Gwybodaeth Electronig

Gwasanaethau Meddalwedd

Rydym yn cynnig cymorth a chyngor ar brynu pecynnau meddalwedd a thrwyddedau. Hefyd, mae’n bosibl y gallwn ymateb i geisiadau gan adrannau i osod pecynnau meddalwedd yn ganolog at ddibenion dysgu yn dibynnu ar amodau penodol.

Rhagor o wybodaeth: Meddalwedd sydd ar gael yn yr ystafelloedd cyfrifiaduron       

Gwasanaethau Teleffon

Mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal a chadw a gwella gwasanaeth ffôn y Brifysgol ac ar hyn o bryd rydym yng nghyfnod olaf prosiect mawr i symud gwasanaeth ffôn y Brifysgol i Voice over IP (VOIP), ac rydym hefyd yn cyflwyno gwasanaethau newydd a nodweddion megis peiriant ateb, adnabod galwyr, a symudedd estyniad. Mae ffonau symudol ar gyfer adrannau’r Brifysgol hefyd yn cael eu rheoli’n ganolog gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth: System Deleffon Prifysgol Aberystwyth / Ffonau Symudol

Gwasanaethau Wrth Gefn

Mae pob defnyddiwr cofrestredig yn gallu storio data ar nifer o Rwydweithiau Ardal Storio (SAN) sy’n rhoi mynediad eglur i ddefnyddwyr Windows ac UNIX. Mae’r rhwydweithiau SAN hyn mewn lleoliadau daearyddol gwahanol er mwyn sicrhau bod modd adfer y data pe na bai un o’r lleoliadau neu’r SAN a leolir yno ar gael. Ar hyn o bryd mae defnyddwyr yn cael 2 Gigabeit i storio data defnyddwyr ar y dyfeisiau hyn.

Caiff copïau wrth gefn o’r storfa ffeiliau eu gwneud bob dydd a’u cadw mewn uned wrth gefn ganolog. Mae dau weinyddwr copïau wrth gefn pwrpasol ac mae gan y ddau ohonynt ardal ddisgiau a newidydd tapiau LTO5 awtomatig

Rhagor o wybodaeth: Adfer Data

Gwasanaethau’r Rhwydwaith

Mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gosod, cynorthwyo a chynnal a chadw ceblau rhwydwaith drwy ddolenni opteg ffibr mewn adeiladau a rhwng adeiladau gwahanol, yn ogystal â’r cebl lleol i ddesgiau. Ar gyfer prosiectau newydd mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth mewn cysylltiad trwy gydol cylch oes y prosiect â’r Adran Datblygu Ystadau, Tîm Gwasanaethau Eiddo’r Brifysgol, ac/neu gontractwyr ar brosiectau ehangach. Mae bod yn rhan o’r prosiect drwyddo i gyd yn lleihau problemau yn ddiweddarach yn ogystal â sicrhau isadeiledd ar gyfer y dyfodol. Mae gan yr holl neuaddau preswyl ar y campws bwyntiau rhwydwaith gwifrog ac mae’r pwyntiau rhwydwaith di-wifr ‘Eduroam’ yn rhoi cysylltiad cyflymder uchel sy’n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio rhwydwaith ardal leol Prifysgol Aberystwyth a’r rhyngrwyd.  Mae rhwydwaith di-wifr ‘Eduroam’ hefyd ar gael yn eang yn adeiladau academaidd a llyfrgelloedd y Brifysgol.

Rhagor o wybodaeth: Cyfrifiaduron a Rhwydweithiau

Gwasanaethau’r We

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu ac yn gofalu am y gweinyddwyr sy’n cynnal tudalennau Prifysgol Aberystwyth ar y we. Rydym yn cynnig cymorth a hyfforddiant i staff i ddefnyddio System Rheoli Cynnwys y Brifysgol (Rheolwr Safle Terminal Four). Rydym hefyd yn datblygu cymwysiadau/rhaglenni ar y we ac yn rhoi cyngor ar faterion cydymffurfio. Rydym yn rhoi cefnogaeth ar gyfer safle SharePoint y Brifysgol a gwasanaeth blogio’r Brifysgol.

Rhagor o wybodaeth: Gwasanaethau’r We

Hyfforddiant a Datblygu

Cynhelir sgyrsiau rhagarweiniol a theithiau i fyfyrwyr newydd cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd Aberystwyth er mwyn eu cyfarwyddo â’r adnoddau sydd ar gael a sut mae eu defnyddio. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn cynnig gwasanaeth clinig lle rydym yn cynnig cymorth un-i-un i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd â chwestiynau ynglŷn â defnyddio’r adnoddau yr ydym yn eu darparu, er enghraifft adnoddau electronig, Blackboard, Microsoft Office neu feddalwedd arall.

Mae Llyfrgellwyr y Gwasanaethau Academaidd yn gweithio gyda darlithwyr i integreiddio gwybodaeth a llythrennedd digidol yn y cwricwlwm sy’n cynnwys dysgu a chreu adnoddau cynorthwyol ar-lein ac mewn print. Ar lefel generig mae Llyfrgellwyr y Gwasanaethau Academaidd, ar y cyd â Chymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd, yn cynnal Rhaglen Arferion Astudio bob Semester i israddedigion ac uwchraddedigion.

Cynigir sesiynau hyfforddi i staff academaidd a staff eraill ar sut i ddysgu â chymorth technoleg yn effeithiol. Mae’r cyrsiau hyn yn cyfrif tuag at gyflawni’r gofynion DPP yn y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch. Ar gais, gellir trefnu sesiynau hyfforddi pwrpasol i adrannau penodol, yn ogystal ag ymgynghoriadau un-i-un. Hefyd ar gais gellir rhoi hyfforddiant i fyfyrwyr ddefnyddio AberLearn Blackboard neu adnoddau e-ddysgu eraill yn ôl modiwl neu adran.

Rhagor o wybodaeth: Teithiau a sgyrsiau cyflwyno

Hygyrchedd i ddefnyddwyr ag anableddau

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn ymrwymedig i sicrhau y caiff pob defnyddiwr gyfle cyfartal i fanteisio ar ein hadnoddau. Rydym wedi enwebu Person Cyswllt ym mhob lleoliad i chi fedru trafod eich holl anghenion tymor hir neu dymor byr gyda nhw, waeth pa mor barhaol neu dros dro yw natur yr anabledd.

Rhagor o wybodaeth: Mynediad i ddefnyddwyr ag anableddau

Llyfrgelloedd

Mae Aberystwyth yn elwa o amrywiaeth rhagorol o gyfleusterau llyfrgell yn lleol gan gynnwys y rhai ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth dwy llyfrgell ym Mhenglais, ac mae staff a myfyrwyr hefyd yn gallu defnyddio’r casgliadau ymchwil eang sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef llyfrgell adnau hawlfraint ger Campws Penglais, yn ogystal â nifer o lyfrgelloedd arbenigol a chasgliadau eraill yn yr ardal. Mae Llyfrgell Hugh Owen ar gampws Penglais ar agor 24 awr am 5 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor. Mae llyfrgelloedd y Brifysgol yn darparu mannau astudio i oddeutu 1100 o fyfyrwyr. Mae’r mannau astudio yn cynnwys ardaloedd astudio tawel traddodiadol ac ardaloedd astudio agored, ardaloedd i weithio ar gyfrifiaduron, carelau astudio i fyfyrwyr ymchwil ac ardaloedd astudio grŵp i fyfyrwyr sy’n gweithio ar brosiectau.

Rhagor o wybodaeth: Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu

Monitro Ansawdd y Gwasanaeth

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn sicrhau bod ei adnoddau a’i wasanaethau yn cael eu gwerthuso’n rheolaidd gan y cwsmeriaid drwy arolygon, grwpiau ffocws, cyfarfodydd gydag adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth proffesiynol, a chyfarfodydd gydag undeb y myfyrwyr. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn monitro ansawdd y gwasanaeth trwy ddadansoddi canlyniadau arolygon, ac rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar y wefan. Caiff Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) eu defnyddio hefyd i fonitro perfformiad, a gosodir safonau heriol ar gyfer gwelliannau yn y Cynllun Strategol ac yn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Mae amrywiaeth o ystadegau blynyddol yn cael eu llunio ar gyfer cyrff cenedlaethol megis HESA, UCISA a SCONUL a hynny’n rhoi modd cymharu â gweithgareddau mewn prifysgolion eraill. Mae meincnodi o’r fath yn cynnig dull rheoli gwerthfawr.

Rhagor o wybodaeth: Adborth: ein hymateb

Storfa ffeiliau

Mae pob defnyddiwr cofrestredig yn gallu storio hyd at 2GB o ddata, a gellir mynd at y storfa o unrhyw gyfrifiadur ar y campws neu unrhyw le yn y byd mewn gwirionedd. Mae’r data wedi’i storio mewn dau leoliad gwahanol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau os na fydd un lleoliad ar gael. Defnyddir dull canolog o gadw copïau wrth gefn yn y storfa ffeiliau.

Rhagor o wybodaeth: Storio ffeiliau personol

Ystafelloedd Dysgu

Ym mhob ystafell ddysgu sydd ar yr amserlen ganolog, ceir darllenfa y gellir addasu ei huchder, cyfrifiadur gyriant cyflwr solet, monitor PC rhyngweithiol, chwaraewr Blu-Ray, camera dogfen, camera we, microffonau, uchelseinyddion ar y nenfwd ac uned rheoli panel cyffwrdd Extron. Yn ogystal â’r dechnoleg newydd, mae dewisiadau gwahanol ar gael o ran dodrefn a chynllun yr ystafelloedd i gynnig dewis o arddulliau dysgu, gan gynnwys dysgu ar y cyd. Mae gan yr holl ystafelloedd gysylltiad diwifr, ac wedi’u ffurfweddu ar gyfer recordio darlithoedd Panopto. Er mwyn cael cymorth technegol yn yr ystafelloedd, mae ffôn ym mhob ystafell sydd yn deialu’n awtomatig i dîm cymorth technegol TGCh.

Rhagor o wybodaeth: Cyfleusterau ystafelloedd dysgu