Cynllun Strategol y Gwasanaethau Gwybodaeth
Yn y Cynllun Strategol hwn fe ddisgrifir sut y bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn ecsbloetio’r technolegau newydd ac yn manteisio i’r eithaf ar ein gwybodaeth a’n profiad wrth daclo pob her a wynebwn. Mae ein gwasanaeth canolog yn un sy’n fodd i gyflawni holl weithrediadau academaidd a gweithrediadau busnes y Brifysgol, ac mae’n prosesau cynllunio ni’n canolbwyntio ar ein rôl o ran helpu i wireddu uchelgeisiau strategol Prifysgol Aberystwyth. Mae’r gwelliannau parhaus i bensaernïaeth (ffisegol a rhithiwr) ein gwasanaethau, fel y’u hamlinellir yn y cynllun hwn, wedi’u cynllunio ar y cyd â’n cydweithwyr academaidd a’r myfyrwyr i sicrhau y ceir y gwerth gorau a’r effaith fwyaf o’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Man cychwyn y ddogfen yw ailadrodd cenhadaeth a gwerthoedd creiddiol y Gwasanaethau. Yna, yn y brif adran, disgrifir sut y byddwn ni’n cyflawni’n cenhadaeth yn ystod y cyfnod cynllunio. Mae’r pum Amcan Strategol sydd wedi’u nodi yn deillio’n uniongyrchol o Gynllun Strategol y Brifysgol:
- Hyrwyddo rhagoriaeth
- Gwella’r profiad o ddysgu
- Cefnogi ymchwil
- Hwyluso llywodraethu da
- Datblygu’r gofodau, y bobl a’r prosesau iawn
Cynllun Strategol y GG 2009-2013