Croeso’r Cyfarwyddwr

Rydym yma i’ch helpu i wneud y gorau o'ch amser yn y Brifysgol. Mae'r holl wasanaethau a gynigir gennym wedi eu cynllunio i fod yn hawdd ac yn syml i chi eu defnyddio. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yma i gefnogi gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiadura, e-ddysgu, y cyfryngau ac anghenion gwybodaeth eraill yr holl fyfyrwyr, darlithwyr, ymchwilwyr a gweinyddwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae'r wefan hon yn eich arwain drwy’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac edrychwn ymlaen at eich ymweliad, yn bersonol a thrwy ein gwefan. Mae ein staff proffesiynol ar gael yn bersonol a thrwy e-bost, sgwrsio ar y we neu dros y ffôn . Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda'ch ymholiad, galw heibio ein desgiau ymholiadau neu archebu lle ar un o'n clinigau gwybodaeth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein gweithgareddau a chael mynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau trwy'r wefan hon. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter a Facebook.

Rydym bob amser yn gweithio i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau yn datblygu ac yn newid i gwrdd â'ch anghenion, ac i wneud hyn yn effeithiol mae angen eich adborth. E-bostiwch eich awgrymiadau atom, cwblhewch ein ffurflen adborth ar-lein neu un o'r ffurflenni sylwadau sydd ar gael yn y llyfrgelloedd. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am eich syniadau a chwrdd â chi pan fyddwch yn ymweld â ni.

Tim Davies, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth