Systemau Gwybodaeth Busnes
Mae Systemau Gwybodaeth Busnes yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw systemau gwybodaeth corfforaethol. Yn eu plith mae:- AStRA – System Cofnodion a Derbyn Myfyrwyr Aberystwyth.
- Mae’r system hon yn dal gwybodaeth am Dderbyn Myfyrwyr, Cofnodion Myfyrwyr, Cynlluniau Modiwlau, Cardiau Adnabod, Neuaddau, Cyllid Myfyrwyr. Datblygwyd y system hon yn fewnol gan ddefnyddio Ffurflenni ac Adroddiadau Oracle.
- Cyllid - Agresso QL Financials.
- Adnoddau Dynol / Adran Gyflogau - Cyborg.
- Gwasanaeth Alumni – Donor Strategy.
- Amserlennu - Scientia Syllabus Plus.
Caledwedd a Meddalwedd SGB
Mae’r cymwysiadau’n rhedeg ar gyfres o weinyddwyr Sun Solaris a Microsoft Windows ac mae’r data’n cael ei ddyblygu i sicrhau bod y system yn gadarn petai’n methu.
Mae’r rhan fwyaf o’n cymwysiadau’n seiliedig ar gronfa ddata Oracle, a fersiwn 10g sy’n cael ei redeg ar hyn o bryd. Cewch ragor o wybodaeth am Oracle drwy fynd i un o’u gwefannau.
- Cofrestru i ddefnyddio SGB
- Sesiynau hyfforddi
- Gofynion cyfrifiadurol
- AStRA (Defnyddwyr Cofrestredig a Chyfrifiaduron Personol yn unig)
- Canllawiau AStRA (Defnyddwyr Cofrestredig a Chyfrifiaduron Personol yn unig)