Rhestrau E-bost Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu nifer o restrau ebost - sy’n cael eu cynhyrchu’n nosweithiol o ddata Myfyrwyr ar AStRA - y gall staff eu defnyddio i gysylltu â myfyrwyr. Mae’r rhestrau hyn yn cynnwys myfyrwyr y flwyddyn academaidd gyfredol yn unig, gyda’r treiglo drosodd o un blwyddyn academaidd i’r un nesaf yn digwydd ar Fedi 1af. Yr unig eithriad i hyn yw’r rhestrau ar gyfer myfyrwyr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol sy’n treiglo drosodd ar Awst 1af.
Gellir gyrru e-bost i’r rhestrau hyn gan staff PA yn unig (ac yn achos rhestrau’r Neuaddau, gan Cymorth Preswyl a staff Gwasanaethau Preswyl yn unig).
Efallai y bydd eich rhaglen e-bost yn gofyn i chi ychwanegu @aber.ac.uk at enw’r rhestr e.e. tutor-abc-2@aber.ac.uk
Holl fyfyrwyr FT/PT sydd wedi eu cofrestru ar fodiwl:
e.e. modiwl-AC10310 = myfyrwyr wedi eu cofrestru ar fodiwl AC10310
- Mae’r rhestrau’n cynnwys myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar hyn o bryd a myfyrwyr ar flwyddyn ddiwydiannol
- Gall Gweinyddwyr Adrannol gael eu cynnwys hefyd petai’r Adran yn gwneud cais am hynny
- Nid ydynt yn cynnwys Myfyrwyr o Bell a’r rheini sy’n ailsefyll arholiadau’n allanol
- Nid ydynt yn cynnwys myfyrwyr sydd heb fynediad i e-bost PA mwyach
- Mae staff a gofnodir gyferbyn â Modiwl yn y System Modiwlau hefyd wedi eu cynnwys
Pob myfyriwr a gofrestrir ar gynllun astudio yn ôl y flwyddyn astudio:
e.e. cynllun-M164-BSCEC-2 = myfyrwyr ar M164/BSCEC yn yr 2il flwyddyn.
Mae’r rhestrau enwau hyn yn defnyddio codau’r Cynllun Astudio (e.e. M164) a chodau Nod y Cymhwyster (e.e. BA, BSC, BSCEC, LLM, MSCEC, PHD, NQUG, ayb).Hefyd yn gynwysedig yma ceir rhestrau myfyrwyr DiPAR yn ôl iaith y Cynllun – e.e. scheme-PGDE-W a scheme-PGDE-E Gweler isod am eglurhad o’r Flwyddyn Astudio.
- Mae’r rhestrau yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar hyn o bryd a myfyrwyr ar flwyddyn ddiwydiannol
- Maent yn cynnwys Dysgwyr o Bell
- Nid ydynt yn cynnwys y rheini sy’n ailsefyll arholiadau’n allanol
- Nid ydynt yn cynnwys myfyrwyr sydd heb fynediad i e-bost Prifysgol Aberystwyth mwyach
Myfyrwyr ar unrhyw gynllun astudio mewn adran yn ôl y math o raglen a’r flwyddyn astudio:
e.e. dept-T-UG-3 = israddedigion mewn Ffiseg ym mlwyddyn 3. Mae’r codau Adran llythyren sengl fel y rheini a ddefnyddir yn y system Myfyrwyr (gweler y rhestr isod) – yn deillio o’r gronfa ddata Cynlluniau Astudio sy’n cofnodi pa Adrannau sy’n gysylltiedig â phob Cynllun Astudio. Dyma’r Mathau o Raglenni: UG, PGT (Dysgwyd), PGR (Ymchwil), PG (rhestr cyfunedig o PGT a PGR), EM PGCES (PGCE uwchradd) neu PGCEP (PGCE cynradd). Gweler isod am eglurhad o’r Flwyddyn Astudio.
- Mae’r rhestrau yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar hyn o bryd a myfyrwyr ar flwyddyn ddiwydiannol
- Maent yn cynnwys Dysgwyr o Bell
- Nid ydynt yn cynnwys y rheini sy’n ailsefyll arholiadau’n allanol
- Nid ydynt yn cynnwys myfyrwyr sydd heb fynediad i e-bost PA mwyach
Pob myfyriwr a draddodwyd i ofal tiwtor personol:
e.e. tutor-abc = myfyrwyr cofrestredig gyda’r tiwtor personol abc (mewngofnod defnyddiwr) fel y’i mewnbynnwyd i’r system Cofnodion Myfyrwyr yn ôl Adrannau
- Mae’r rhestrau yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar hyn o bryd a myfyrwyr ar flwyddyn ddiwydiannol
- Maent yn cynnwys Dysgwyr o Bell
- Nid ydynt yn cynnwys y rheini sy’n ailsefyll arholiadau’n allanol
- Nid ydynt yn cynnwys myfyrwyr sydd heb fynediad i e-bost PA mwyach
Pob myfyriwr a draddodwyd i ofal tiwtor personol yn ôl y flwyddyn astudio:
e.g. tutor-abc-2 = myfyrwyr cofrestredig ym mlwyddyn 2 gyda’r tiwtor personol abc. Fel y rhestr uchod ond wedi ei rannu yn ôl y flwyddyn astudio – gweler yr eglurhad isod.
Myfyrwyr Rhyngwladol (cenedligrwydd ar wahân i Brydeinig):
Mae’r rhestrau yn cynnwys israddedigion llawn amser a rhan amser (UG); Uwchraddedigion (Dysgwyd) (PGT), Uwchraddedigion Ymchwil (PGR), myfyrwyr TAR (PGCE) a DiPAR (PGDE) a myfyrwyr Iaith a Dysgu(LC)
e.e. int-ug; int-pgr; int-pgce; int-pgde; int-lc. Oddi fewn i’r adran hon cedwir rhestr ar wahân o fyfyrwyr Tsieineaidd: int-china
Pob myfyriwr sy’n preswylio mewn neuadd (Defnyddir gan Staff Cymorth Preswyl yn unig):
e.g. hall-cwrt = myfyrwyr cofrestredig sy’n byw yn Cwrt Mawr
Rhestrau ychwanegol ar gyfer bob bloc ar gael hefyd - e.e. hall-cwrt-d
Gellir defnyddio rhestr hall-priv i gysylltu â myfyrwyr FT UG/PG/LLC sydd wedi darparu cyfeiriad tymor cyfredol ond nid mewn neuadd
Y Flwyddyn Astudio
- Pan rhennir y rhestrau yn ôl y flwyddyn astudio, cynhwysir myfyrwyr sydd ar flwyddyn allan o’r coleg (e.e. Dros y Môr, Blwyddyn Ddiwydiannol, Blwyddyn Gyfnewid ayb.) fel blwyddyn Y (e.e. ‘dept-N-UG-Y’).
- Ceir rhestrau ar wahân ar gyfer myfyrwyr ym mlynyddoedd 0 i 5 (mae blynyddoedd y tu hwnt i 5 yn cael eu cynnwys fel blwyddyn 5).
- Addasir y flwyddyn astudio i wneud iawn am fyfyrwyr sydd wedi cymryd blwyddyn allan o’r blaen – felly, mae ‘dept-N-UG-3’ yn cynnwys myfyrwyr ym mlwyddyn olaf cynllun tair blynedd ynghyd â’r rheini ar flwyddyn olaf cynllun pedair blynedd sy’n cynnwys profiad gwaith mewn diwydiant.
- Mae Graddedigion a Ddysgir yn cael eu cynnwys ym mlwyddyn 1 hyd nes yr ymgymerant â thraethawd ymchwil pryd y symudant i flwyddyn 2.
- Mae israddedigion o dramor sy’n mynychu Prifysgol Aberystwyth fel rhan o gynllun cyfnewid yn cael eu dosbarthu o dan flwyddyn astudio 2.
Codau’r Adrannau
Mae’r codau a ddefnyddir ar Sequent fel a ganlyn:
A FFILM, THEATR A THELEDU |
P DAEARYDDIAETH A GWYDDORAU DAEAR |
B ADDYSG |
Q GWYDDOR CHWARAEON |
C SAESNEG |
R GWYDDORAU GWLEDIG (defnyddiwch I - IBERS) |
D IEITHOEDD EWROPEAIDD |
S GWYDDORAU BIOLEGOL (defnyddiwch I - IBERS) |
E IHANES A HANES CYMRU |
T MATHEMATEG A FFISEG (FFISEG) |
F CELF |
U ASTUDIAETHAU GWYBODAETH |
G CYMRAEG |
V CANOLFAN IAITH A DYSGU |
I IBERS |
W SEICOLEG |
K GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL |
X ALLANOL |
L Y GYFRAITH |
Y RHEOLAETH A BUSNES |
M MATHEMATEG |
Z ADDYSG BARHAUS |
N CYFRIFIADUREG |
|
Codau’r Neuaddau
ALEX |
NEUADD ALEXANDRA |
BRYN |
BRYN DERW |
CARN |
NEUADD CARON |
CLAR |
TY CLARENDON |
CWRT |
NEUADD CWRT MAWR |
GWAL |
GWALIA |
JOHN |
NEUADD JOHN WILLIAMS |
LLAN |
NEUADD LLANBADARN |
LLAP |
NEUADD LLANBADARN |
MARI |
46 GLAN Y MOR |
PANT |
NEUADD PANTYCELYN |
PENB |
NEUADD PENBRYN |
PENP |
NEUADD PENBRYN |
PJMV |
PENTRE JANE MORGAN |
PNBN |
PENBRYN |
ROSS |
NEUADD ROSSER |
SALX |
LLETY HAF ALEXANDRA |
SBRY |
LLETY HAF BRYNDERW |
SCLA |
LLETY HAF CLARENDON |
SCRT |
LLETY HAF CWRT MAWR |
SGWA |
LLETY HAF GWALIA |
SPJM |
LLETY HAF PJM |
SROS |
LLETY HAF ROSSER |
STRE |
LLETY HAF TREFLOYNE |
TREF |
NEUADD TREFLOYNE |
ZAER |
FFLAT AERON |
ZCLE |
FFLAT CLETWR |
ZFAR |
FFERMDY PENGLAIS |
ZGOD |
GODRE'R GLAIS |
ZHAF |
HAFAN |
ZLON |
LON HENDRE |
ZMAR |
7 MARINE TERRACE |
ZPEN |
PENYLAN |