Canolfan Dogfennau Ewropeaidd

Cyflwyniad

Mae Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd (CDE) yn ffurfio rhwydwaith o ganolfannau gwybodaeth a sefydlwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn 1963 i gefnogi astudio, dysgu ac ymchwil ar lefel prifysgol. Yn y Deyrnas Gyfunol, sefydlwyd y canolfannau hyn yn y 1970au, ar ôl i’r DU ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd. Fe’u lleolir mewn prifysgolion er mwyn i staff academaidd a myfyrwyr fedru cael at ddogfennau’r Undeb Ewropeaidd yn hawdd ac fe’u cefnogir yn hyn o beth gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae dros 40 o ganolfannau o’r fath yn y Deyrnas Gyfunol, a dwy ohonynt yng Nghymru – yma yn Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gall Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am y pynciau canlynol:

  • Cyfraith Ewrop
  • Polisïau a sefydliadau Ewrop
  • Integreiddio Ewropeaidd

Tanlinellwyd pwysigrwydd y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd yn ystod dathliadau Diwrnod Ewrop 2011 ym Mhrifysgol Aberystwyth ar Fai 12fed a drefnwyd gan y Ganolfan Astudiaethau EwropeaiddGwelwch sut  y gwnaeth Gwasanaethau Gwybodaeth gymryd rhan.

Sut mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r  Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd?

“Rwy’n defnyddio’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd (CDE) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer deddfwriaeth a chynigion y Gymuned Ewropeaidd a Dogfennau Gweithio’r Comisiwn (COM) … Rwy’n defnyddio’r CDE  yn arbennig i weld cyhoeddiadau cyffredinol sy’n canolbwyntio ar y cyhoedd gyda mapiau a graffiau sy’n medru bod yn gyflwyniad da i fyfyrwyr”.
Ann Sherlock, Darlithydd Hŷn, Adran y Gyfraith a Throseddeg

“Mae’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd a’i hadnoddau, sy’n dyddio’n ôl i gychwyn yr Undeb Ewropeaidd,  wedi darparu adnoddau gwerthfawr ar gyfer cwblhau pennod bwysig yn fy nhraethawd gradd.  Heb y cyfleoedd a gynigir gan gasgliadau’r Ganolfan, mi fyddai wedi bod yn amhosib ysgrifennu’r bennod”.
Athina Gkouti, myfyriwr PhD, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

“Rwyf wedi defnyddio’r  Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd yn helaeth yn y gorffennol i gael gafael ar ddogfennau (go amwys ar adegau) ar iechyd a diogelwch a hefyd ystadegau”.
Diane Rowland, Athro, Adran y Gyfraith a Throseddeg

Lleoliad a Mynediad

Lleolir y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd yn Aberystwyth yn Llyfrgell y Gyfraith ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen. Gall staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ei defnyddio a hefyd bobl sydd am gael gwybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r holl ddeunyddiau yn y GDE yn cael eu cynnwys yng nghatalog y llyfrgell Primo a rhoddir y rhagddodiad EDC iddynt a’r rhif dosbarth KW. Mae’r deunyddiau ar gael i gyfeirio atynt yn unig yn ystod oriau agor arferol Llyfrgell Hugh Owen.

Adnoddau

Sefydlwyd CDE Aberystwyth yn hwyrach na’r rhan fwyaf o’r canolfannau – yn 1996. Ond datblygiad ydyw ar y Ganolfan Gyfeirio Ewropeaidd a fu’n bodoli ers y 1970au. Mae’r rhan fwyaf o’r prif destunau yn dyddio’n ôl i ganol y 1970au a chyn hynny, ond ers 1996, mae’r GDE wedi derbyn y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau swyddogol a lunnir gan brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, megis y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r rhain yn cynnwys testunau deddfwriaethol, adroddiadau ac ystadegau ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd ac integreiddio Ewropeaidd.

Mae’r dogfennau swyddogol sydd ar gael yn y GDE yn cynnwys:

  • Cyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd (Official Journal of the European Communities)
  • Deddfwriaeth (cyfres L) sy’n cynnwys testun cyflawn rheoliadau, cyfarwyddebau a phenderfyniadau. Cyhoeddir yn ddyddiol.
  • Hysbysiadau Gwybodaeth (cyfres C) sy’n cynnwys Gwybodaeth a Hysbysiadau megis Barn y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, cynigion ar gyfer deddfwriaeth a gwybodaeth ynglyn â’r Comisiwn. Cyhoeddir yn ddyddiol.
  • Atodiad i’r Cyfnodolyn Swyddogol (cyfres S) sy’n cynnwys manylion ynghylch yr holl gyflenwad cyhoeddus a chontractau gwaith sydd ar gael ar gyfer tendr yn y Gymuned Ewropeaidd.
  • Dogfennau Gweithio’r Comisiwn (Dogfennau COM) sy’n cynnwys testunau’r cynigion ar gyfer deddfwriaeth a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol.
  • Trafodaethau ac adroddiadau Senedd Ewrop
  • Adroddiad cyffredinol a bwletin yr Undeb Ewropeaidd
  • Eurostat Mae Swyddfa Ystadegau’r Cymunedau Ewropeaidd yn cynhyrchu amrywiaeth eang o ddata ystadegol am yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ymwneud â phynciau fel yr economi a chyllid, poblogaeth ac amgylchiadau cymdeithasol, masnach allanol, yr amgylchedd ac ymchwil a datblygu.

Mae’r GDE hefyd yn derbyn nifer fawr o fonograffau ac adroddiadau wedi’u cyhoeddi gan yr amryw Gyfarwyddiaethau Cyffredinol ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys polisi economaidd ac ariannol, amaethyddiaeth, diwydiant, polisi ynni, polisi rhanbarth, yr amgylchedd, polisi cymdeithasol ac addysg a hyfforddiant.

Mae mwy a mwy o wybodaeth Ewropeaidd bellach ar gael yn electronig, a llawer ohono ar gael ar y we, e.e.:

  • European Sources Online
    Mae hon yn darparu gwybodaeth ar sefydliadau a gweithgareddau’r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd.
  • Europa
    Dyma weinydd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n adnodd hanfodol ar gyfer pawb sy’n astudio materion yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn nifer fawr o ddogfennau swyddogol yr UE, briffiadau newyddion dyddiol, cysylltiadau â thudalennau cartref holl sefydliadau’r UE a llawer mwy.
  • EUR-Lex
    Yma fe gaiff y cyhoedd fynediad i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn cytundebau cyfunol a’r holl ddeddfwriaeth sydd mewn grym. Ceir yma hefyd destun cyflawn cyfresi C ac L y Cyfnodolyn Swyddogol ar gyfer y 45 diwrnod diwethaf.
  • PreLex
    Mae’r safle hwn yn eich galluogi i olrhain cynnydd cynigion a mentrau deddfwriaethol yr UE.
  • Summaries of European Legisation
    Crynodeb o’r prif fesurau a gweithdrefnau deddfwriaethol ar gyfer pob un o weithgareddau’r Undeb Ewropeaidd.
  • European Court of Justice (CURIA)
    Mae’n darparu testun cyflawn trafodaethau’r Llys Cyfiawnder a Llys Ewropeaidd y Gwrandawiad Cyntaf ac Achosion Staff ers Mehefin 1997, yn ogystal â datganiadau i’r wasg sy’n ymwneud â phenderfyniadau pwysig.
  • EU Bookshop
    Siop un-stop ar gyfer amryw gyhoeddiadau sefydliadau, asiantaethau a chyrff eraill yn Ewrop.
  • EU News
    Cyhoeddiad misol sy’n rhoi manylion am weithgareddau’r Comisiwn Ewropeaidd a holl sefydliadau eraill y Comisiwn. Mae’r GDE yn dal copïau hyd at ddiwedd 2005.

Cysylltiadau a Chymorth

Lillian Stevenson Lillian Stevenson
Cwrdd â'ch llyfrgellydd
(01970 62) 1514

lis@aber.ac.uk