Casgliad Benthyca Cyfnod Byr
Cedwir y casgliad hwn ar wahân ac wrth ymyl y Ddesg Fenthyca ar Lefel D Llyfrgell Hugh Owen. Y mae'n cynnwys llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a deunyddiau eraill a ystyrir yn waith darllen hanfodol ar gyfer niferoedd mawr o fyfyrwyr. Gellir eu benthyca am hyd at 10 awr (llyfrgell) yn unig. Ni ellir eu hadnewyddu na'u rhoi ar gadw, ac ni elli eu benthyca yn ystod y gwyliau. Mae'n hawdd eu hadnabod oherwydd y stribedyn melyn ar y meingefn a'r label melyn sy'n nodi'r dyddiad y tu mewn i'r llyfr.
Rhaid i bob eitem gael ei benthyg cyn gadael yr ardal Benthyca Cyfnod Byr.
Gall y llyfrau sy'n perthyn i'r casgliad hwn newid wrth i'r galw amadanynt gynyddu neu leihau, ond nodir yr holl ddeunyddiau cyfredol sydd yn y casgliad yn y catalog, (Primo), ac eithrio ambell lungopi a gedwir mewn ffeiliau blwch yn y casgliad Benthyca Cyfnod Byr.
Gellir benthyca DVDs am 3 diwrnod. Fe’u cedwir yn yr ardal Benthyca Cyfnod Byr ar Lefel D a gellir eu hadnabod trwy gyfrwng stribed coch ar y meingefn.
Mae llyfrgelloedd adrannol yn gweithredu trefniadau tebyg ar gyfer eu Casgliadau Benthyca Cyfnod Byr, ond bod yn rhaid holi am yr eitemau wrth y Ddesg Fenthyca. Holwch am fanylion pellach.
Codir dirwy o 50c yr awr ar gyfer eitemau a ddychwelir yn hwyr.