Adfer data
Efallai y gall staff y Gwasanaethau Gwybodaeth adfer data sydd wedi'i golli neu'i lygru sydd wedi'i storio:
- yn eich e-bost neu'ch storfa ffeiliau Prifysgol
- ar eich gyriant caled, gan gynnwys cofion pin a gyriannau caled allanol
Ffeiliau sydd wedi'u storio yn eich e-bost neu'ch storfa ffeiliau Prifysgol
Rydym yn gwneud copïau wrth gefn ychwanegol rheolaidd o storfa ffeiliau ac e-bost defnyddwyr. Os ydych wedi colli, dileu neu lygru neges e-bost neu ffeil o'ch storfa ffeiliau gallwch wirio i weld a allwn ni adfer y gwaith o ddyddiad cynharach. Mae'n rhaid i ni gael yr wybodaeth ganlynol:
- Eich enw mewngofnodi
- Enw'r ffeil
- Y cyfeiriadur/ffolder yr oedd y ffeil wedi'i chadw ynddo (os o gwbl)
- Y dyddiad y cafodd y ffeil ei cholli/llygru
I wirio a oes modd adfer y ffeil efallai y bydd yn rhaid i Staff y Gwasanaethau Gwybodaeth gael mynediad at eich storfa ffeiliau, ond nid at y data sydd ar y ffeiliau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes modd adfer y gwaith a rhoi amcangyfrif o'r amser y bydd yn ei gymryd i adfer y gwaith.
Ffeiliau sydd wedi'u storio ar yriannau caled, gan gynnwys gyriannau caled allanol a chofion pin
Efallai y gall ein staff technegol, gan ddefnyddio meddalwedd arbennig, adfer data yr ydych wedi'i golli o'ch gyriant caled. Mae'n rhaid i'r gyriant caled fod yn gweithio er mwyn i ni allu gwneud hyn. Efallai na fydd hi'n bosibl adfer yr holl ddata, neu unrhyw ddata o gwbl - gan ddibynnu ar gyflwr y gyriant caled.
Codir tâl am y gwasanaeth hwn ar ein cyfradd bob awr arferol.
I wneud cais i adfer data o'ch storfa ffeiliau, e-bost, gyriant caled neu gof pin, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid