Storfa ffeiliau

Storfa Ffeiliau a Rennir

Os ydych chi angen storfa ffeiliau y gall mwy nag un aelod o staff gael mynediad iddi gallwch wneud cais am Storfa Ffeiliau a Rennir

Storfa ffeiliau a rennir: 

  • Mae ganddi 10GB o storfa rad ac am ddim
  • Gellir ei rhannu’n hawdd â chydweithwyr yn PA drwy Myaccount. 
  • Bydd yn cael ei mapio’n awtomatig i chi pan fyddwch yn mewngofnodi i unrhyw gyfrifiadur Prifysgol yn unrhyw le ar y campws heb fod angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar wahân
  • Gellir cael mynediad iddi oddi ar y campws pan fyddwch wedi cysylltu â rhwydwaith PA drwy VPN
  • Mae’n galluogi i chi roi caniatâd 'darllen yn unig' neu fynediad darllen/ysgrifennu i’r ffeiliau
  • Caiff copi wrth gefn ei gadw’n rheolaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y storfa ffeiliau a rennir, gan gynnwys sut i wneud cais i gael un, drwy fynd i’n Cwestiynau Cyffredin.

SharePoint

SharePoint:

  • Storio eich ffeiliau yn y cwmwl fel y gallwch eu cyrchu o unrhyw ddyfais sydd wedi'i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
  • Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
  • Mae’n caniatáu i chi greu gwefannau unigol ar gyfer prosiectau a thimau penodol
  • Mae’n caniatáu i chi greu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol a chyrchu gwahanol fersiynau gwahanol o’ch dogfennau
  • Mae’n caniatáu i chi rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill ac yn caniatáu i nifer o ddefnyddwyr olygu dogfen ar yr un pryd, a newidiadau pawb yn cael eu cadw
  • Mae’n darparu apiau i hwyluso gweithio mewn tîm a phrosiectau e.e. rhestrau tasg, wicis, byrddau trafod

Ceir rhagor o wybodaeth am SharePoint yn Cwestiynau Cyffredin

Data Ymchwil

Mae hyd at 1TB o storfa ddigidol yn ystod y prosiect ar gael, yn rhad ac am ddim, fesul prosiect.

Bydd y storfa hon yn cael ei rhoi ar weinydd canolog, wedi’i adlewyrchu i system ar wahân (mewn lleoliad arall) gyda threfniadau cyfnodol wrth gefn mewn lle.  Mae’r trefniant hwn yn caniatáu amddiffyn data sydd wedi'i storio rhag methiannau cydran a system gyda'r gallu i adfer o dâp ar gyfer data a gafodd ei ddileu neu ei lygru.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau gwe'r Swyddfa Ymchwil :https://www.aber.ac.uk/cy/research/good-practice/data-management/how/storage/

 

 

OneDrive

Mae pob cyfrif e-bost PA yn cael 50GB o le storio ar gyfer e-byst a ffeiliau. Enw’r gwasanaeth yw OneDrive

OneDrive:

  • Mae’n storio eich ffeiliau yn y cwmwl er mwyn i chi allu cael mynediad iddynt o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
  • Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
  • Mae’n cynnwys yr Apiau Gwe Office:  Excel, Word, PowerPoint ac OneNote er mwyn i chi allu creu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol ac argraffu’n uniongyrchol o’ch porwr
  • Mae’n eich galluogi i rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio OneDrive yn ein Cwestiynau Cyffredin

Storfa ffeiliau Bersonol (gyriant M)

Mae pob cyfrif defnyddiwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys 100GB o ofod ar rwydwaith y Brifysgol, y cyfeirir yn aml ato fel gyriant M, i gadw dogfennau, delweddau a ffeiliau eraill.

Y storfa ffeiliau bersonol (gyriant M):

  • Mae ganddi 100GB o storfa rad ac am ddim
  • Bydd yn cael ei mapio’n awtomatig i chi pan fyddwch yn mewngofnodi i unrhyw gyfrifiadur Prifysgol yn unrhyw le ar y campws heb fod angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar wahân
  • Gellir cael mynediad iddi oddi ar y campws pan fyddwch wedi cysylltu â rhwydwaith PA drwy VPN
  • Caiff copi wrth gefn ei gadw’n rheolaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am y storfa ffeiliau bersonol yn ein Cwestiynau Cyffredin