Gwerthu Caledwedd
Rydym yn gwerthu amrywiaeth eang o gyfrifiaduron, gliniaduron, cyfarpar cyfryngol a pherifferolion i Adrannau'r Brifysgol, unigolion a chwsmeriaid allanol. Mae ein prisiau'n gystadleuol yn gyffredinol ac, i aelodau o'r Brifysgol, maent yn aml ar delerau addysgol arbennig a/neu â gwarantau estynedig.
Prynu Ar lein
Rydym yn awr yn medru cyflenwi detholiad bychan o liniaduron trwy gyfrwng ein siop ar lein –gweler https://shop.aber.ac.uk/ am y systemau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gwasanaeth sy'n Ychwanegu Gwerth
Rydym yn ceisio cynnig gwasanaeth llawn, sy'n cynnwys gosod y cyfarpar ar eich desg (Adrannol a Lleol)
Os bydd unrhyw nam, darperir gwasanaeth ar y safle gan ein tîm profiadol o dechnegwyr sydd â chymwysterau proffesiynol.
Rydym yn Ganolfan Hunanwasanaeth Toshiba, felly rydym yn atgyweirio (gan gynnwys atgyweiriadau dan warant) yn ein gweithdy, sy'n golygu gwasanaeth cyflym.
Yn yr un modd, rydym yn Ganolfan Gwasanaeth Apple awdurdodedig, sy'n gallu gwneud atgyweiriadau dan warant ar gyfarpar a werthir gennym neu sy'n eiddo i'r Brifysgol, staff a myfyrwyr. Gallwn wasanaethu'r holl gyfarpar TG Apple nad ydynt dan warant yn ôl ein telerau arferol.
Gliniaduron
- Rydym yn cyflenwi i gliniaduron yn ôl telerau ac amodau'r Cytundeb Gliniaduron Cenedlaethol.
- Mae gliniaduron a gyflenwir yn ôl telerau'r Cyntudeb yn cynnwys o leiaf 3 blynedd o warant gan y gwneuthurwyr.
Isod cier ein systemau Cynhyrchiant Swyddfa Safonol ar gyfer cyfrifiaduron y cartref, y swyddfa a chyfrifiaduron symudol. Cysylltwch â ni am ofynion ansafonol.
| System Gliniadur Cynhyrchiant Swyddfa Safonol (Rhaglenni swyddfa a defnyddio'r rhyngrwyd) |
System Gliniadur Apple | NetBook Cludadwy Bach ac Ysgafn(Cyfrifiadur symudol) |
|---|---|---|
| Toshiba Satellite Pro L850 | Apple Macbook Pro | Toshiba NB510 |
| Intel Core i3-2350M | Intel Core i5 2.5GHz | Atom N2600 1.66GHz CPU |
| 4GB RAM (1 x 4GB) | 4GB RAM (2 x 2GB) | 1GB RAM |
| Gyriant Disg Caled 500GB SATA | Gyriant Disg Caled 500GB SATA | Gyriant Disg Caled 320GB |
| Sgrin 15.6” HD Non-Reflective 1366 x 768 | 13.3" LED-backlit glossy screen | Sgrin 10.1” TruBrite 1024 x 600 LED |
| Ysgrifennwr DVD lluosog | 8x slot-loading SuperDrive (DVD±R DL/DVD±RW/CD-RW) | Ysgrifennwr DVD allanol dewisol |
| 3 x USB, LAN, WiFi, Gwe-gamera | 2xUSB, LAN, WiFi, Bluetooth, WebCam | 3xUSB, LAN, WiFi, Gwe-gamera |
| 2.1 kg | 2.06 kg | 1.32 kg |
| Hyd at 6.5 awr o fatri | Hyd at 7 awr o fatri | Hyd at 8 awr o fatri |
| Windows 7 * | OS X Mountain Lion | Windows 7 Starter |
| 5 Blynedd o Warant | 3 Blynedd o Warant | 5 Blynedd o Warant |
| £447 (Win 7 Premium i myfyrwyr) * £485 (Win 7 Pro i staff Prifysgol) * gan gynnwys TAW, cês cario, ffurfweddu, a dosbarthu lleol |
£885 gan gynnwys TAW, ffurfweddu, a dosbarthu lleol | £289 gan gynnwys TAW, ffurfweddu, a dosbarthu lleol |
Cyfrifiaduron Bwrdd Gwaith
Mae ein cyfrifiaduron bwrdd gwaith yn cael eu gwneud yn arbennig yn ôl eich gofynion chi a chewch y pethau canlynol:
- Y system weithredu wedi'i gosod ymlaen llaw. Llawlyfrau llawn (pan fo'n briodol) a darperir set o ddisgiau neu CD. Os archebir meddalwedd arall pan fyddwch yn prynu'r cyfrifiadur, caiff y rhain eu gosod ar eich cyfrifiadur hefyd heb unrhyw gostau ychwanegol. Bydd peiriannau adrannol a pheiriannau staff y Brifysgol yn cael eu llwytho â'r system weithredu ddiweddaraf a Microsoft Office yn unol â chytundeb campws y Brifysgol a chânt eu rhag-ffurfweddu ar gyfer eu cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol, boed hynny'n gysylltiad gwifrog, diwifr neu Rwydwaith Preifat Rhithwir.
- Gwarant 36 mis ar gyfer Darnau a 12 mis ar gyfer Llafur ar y safle (yn ardal Aberystwyth). Mae gwarant mewn ardaloedd eraill ar sail Dychwelyd i'r Ganolfan. mae gwarant estynedig yn cynnwys llafur a darnau llawn am gyfanswm o 3 blynedd (gan gynnwys y flwyddyn gyntaf). Noder fod y gwarant y monitor a'r uned system yn unig and NID yw'n cynnwys perifferolion megis argraffyddion a sganwyr ac ati sydd ar gael ar wahân.
Isod ceir ein systemau Cynhyrchiant Swyddfa Safonol ar gyfer cyfrifiaduron y cartref, y swyddfa a chyfrifiaduron symudol. Cysylltwch â ni am ofynion ansafonol.
| System Bwrdd Gwaith Cynhyrchiant Swyddfa Safonol * |
|---|
| Dell Optiplex 390 Desktop PC |
| Intel Core i3-2120 |
| 4GB 1333MHz RAM |
| Gyriant Disg Caled SATA 250GB |
| Monitor LED 20” Sgrin Lydan |
| Ysgrifennwr DVD lluosog |
| Windows 7 Home Premium (Bydd systemau Adrannol y Brifysgol yn cael eu huwchraddio i Win 7 Enterprise yn unol â Chytundeb y Campws ) |
| Tŵr Bychan, cyfrifiadur Form Factor bach neu Fwrdd Gwaith |
| £549.00 Gan gynnwys TAW, ffurfweddiad a chyflenwi'n lleol |
Perifferolion
Mae gennym amrywiaeth o beridderolion yn ein stoc i'w gwerthu:
- Llygod
- Bysellfyrddau
- Clustffonau
- Cof pin
- Llwybryddion/addaswyr diwifr
- Gyriannau disg caled allanol
- Ceblau a chysylltyddion amrywiol
- Arlliwyddion
....... a llawer mwy. Holwch am ragor o wybodaeth.