Diogelwch cyfrifiaduron
Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau nad yw eich cyfrifiadur yn derbyn ymosodiadau firws, neu’n cael eu hacio neu’u camddefnyddio gan drydydd person.
Mae unrhyw gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol sydd â firws neu sydd wedi cael eu camddefnyddio mewn unrhyw ffordd yn cael eu datgysylltu’n awtomatig.
Mae’n rhaid i chi:
- Ddiweddaru Microsoft Windows gyda’r pecynnau Gwasanaeth a’r clytiau Diogelwch diweddaraf (Sut mae gwneud hynny?)
- Osod Diogelwch Gwrth-firws. Gall aelodau’r Brifysgol sydd heb feddalwedd chwilio feirysau cyfredol lawrlwytho meddalwedd gwrth-firws Sophos o’r Brifysgol. (Sut mae gwneud hynny?)
- Osod Diogelwch Gwrth-Ysbïo (Sut mae gwneud hynny?)
- Osod Wal dân bersonol (Sut mae gwneud hynny?)
- Fewngofnodi ar eich cyfrifiadur gydag enw defnyddiwr a chyfrinair (Sut mae gwneud hynny?)
- Osod eich cyfrifiadur fel ei fod yn cloi pan nad ydych yn ei ddefnyddio (Sut mae gwneud hynny?)
- Sicrhau na all pobl eraill gael mynediad i’ch ffolderi (Sut mae gwneud hynny?)
- Arbed eich ffeiliau (Sut mae gwneud hynny?)
- Sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda pholisi defnydd derbyniol (Sut mae gwneud hynny?)