Gwasanaethau storio a gwesteia gweinyddwyr

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cefnogi'r farn y dylai storfa a gweinyddwyr corfforaethol y Brifysgol gael eu cadw a'u rheoli'n ganolog er mwyn iddynt gael y diogelwch, y parhad mewn gwasanaeth a'r rheolaeth orau i sicrhau'r hydwythedd gorau posibl i wasanaethau'r Brifysgol.

Mae'r Gwasnaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth gwesteia i weinyddwyr adrannol arbenigol.

Dyma fanteision gweinyddwyr sy'n cael eu gwesteia gan y GG:

  • maent mewn ystafelloedd gweinyddwyr wedi'u rheoli'n amgylcheddol sydd â mynediad corfforol diogel
  • cedwir copïau wrth gefn yn ganolog ac oddi ar y safle
  • cânt eu cynnal a'u cadw gan staff profiadol a hyfforddedig    

Mae hyn wedi bod o fudd i adrannau gwasanaeth sydd angen gweinyddwyr ar gyfer rhaglenni busnes arbenigol ac i adrannau ymchwil ar gyfer gwaith ymchwil.

Rydym yn cynnig:

  • Gwesteia Gweinyddwyr
  • Gwesteia Gweinyddwyr Rhithwir
  • Storio (naill ai storio crai neu storio cyflwynedig) a chopïau wrth gefn

Ceir rhagor o fanylion yn in Gwasanaethau a chostau lletya’r Gwasanaethau Gwybodaeth

Cyngor

Os hoffech gyngor pellach neu drafod eich anghenion os gwelwch yn dda cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y lle cyntaf