Cyfleusterau ystafelloedd dysgu
Gosodwyd E-droli ym mhob un o'r ystafelloedd sydd ar yr amserlen ganolog ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cynnwys:
- Cyfrifiadur wedi ei rwydweithio sy'n rhedeg Windows 7 gydag Office 2007
- DVD/fideo a thaflunydd data
- Sgrin
- Systemau DVD/Fideo a sain
- Meddalwedd recordio darlithoedd AberCast
- Cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddefnyddio'r cyfarpar
Os dymunwch gallwch gysylltu eich gliniadur eich hun i ddefnyddio'r cyfleusterau.
Ceir cyfarwyddiadau yn yr ystafell ar sut i ddefnyddio'r E-droli (gan gynnwys eich gliniadur) neu maent ar gael yma. yn ychwanegol gallwch wylio'r fideo fer (ond ar gael ar y campws)
Mae yna ffôn ar gael (ar gyfer galwadau mewnol yn unig) ym mhob un o'r ystafelloedd dysgu ac oes cyfyd yna broblem codwch y ffôn a bydd yn deialu'r rhif yn awtomatig.