Gwasanaeth cynnal a chadw, atgyweirio ac uwchraddio
Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth dîm cymwys a phrofiadol iawn o dechnegwyr sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer cyfrifiaduron, gliniaduron a pherifferolion. Mae gan y tîm gymwysterau CompTia A+, a blynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu gwasanaethau atgyweirio ac uwchraddio TG.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau atgyweirio i berchnogion cyfrifiaduron Apple ar gyfer cyfrifiaduron nad oes gwarant arnynt. (Mae’r tîm yn rhan o’r cynllun Apple Care sy’n galluogi i’r GG gynnig gwasanaethau gwarant i gwsmeriaid sydd â chyfrifiaduron a brynwyd neu sy’n eiddo i’r Brifysgol)
Codir tâl am y gwasanaeth hwn ac mae dwy aden i’r gwasanaeth:
- yn rhan o Gytundeb Cynnal a Chadw
- ar sail ad hoc am ddarnau a llafur
Os hoffech gael cymorth ar gyfer eich system gyfrifiadurol, gan gynnwys cyngor dylech gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y lle cyntaf.