Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

E-ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn ymroddedig i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn briodol fel ffordd o wella mynediad at ddysgu a gwella ansawdd ac effeithiolrwydd y profiad o ddysgu ac addysgu.
Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael ar gyfer offer e-ddysgu a darlithwyr. Rydym yn darparu deunyddiau hyfforddi, cyrsiau ac ymgynghoriadau un-i-un i staff sy’n defnyddio AberDysgu Blackboard neu offer e-ddysgu eraill yn rhan o’u dysgu a’u hymchwil. Mae Cwestiynau Cyffredin a thaflenni cymorth ar gael hefyd i fyfyrwyr sy’n defnyddio e-ddysgu yn eu cyrsiau.
Gellir cysylltu â Thîm Blackboard trwy ddefnyddio bb-team@aber.ac.uk a dylid anfon unrhyw ymholiadau eraill am e-ddysgu i is-alto@aber.ac.uk.

AberDysgu Blackboard

Un o’r prif ffyrdd y mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cefnogi dysgu ac addysgu trwy ddefnyddio technoleg yw trwy AberDysgu Blackboard. Mae AberDysgu Blackboard yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir sy’n rhoi mynediad i ddeunyddiau cwrs, cyhoeddiadau ac offer rhyngweithiol megis byrddau trafod, blogiau, wicis a phodlediadau. Mae AberDysgu Blackboard ar gael i’r holl ddefnyddwyr cofrestredig (staff a myfyrwyr) a gellir mynd iddo trwy borwr Gwe safonol ar http://blackboard.aber.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Kate Wright Kate Wright (01970 62) 2790 kaw@aber.ac.uk
Mary Jacob Mary Jacob (01970 62) 2473 mhj@aber.ac.uk
Johanna Westwood Johanna Westwood (01970 62) 2476 oew@aber.ac.uk