Llyfrau Electronig
Mae'r dudalen hon yn rhoi mynediad i gasgliadau o e-lyfrau testun llawn y mae'r Gwasanaethau Gwybodath wedi tanysgrifio iddynt, yn ogystal â mynediad i gasgliadau o lyfrau digidol sydd ar gael yn rhad ac am ddim drwy'r Rhyngrwyd.- Sut mae dod o hyd i e-lyfrau
- Casgliadau o e-lyfrau y tanysgrifir iddynt
- E-lyfrau sydd ar gael yn rhad ac am ddim - casgliadau cyffredinol
- E-lyfrau sydd ar gael yn rhad ac am ddim - casgliadau arbenigol a/neu bwnc-penodol
- Adnoddau e-lyfrau eraill ar y we
Sut mae dod o hyd i e-lyfrau y mae'r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt:
Mae'r dolenni isod, yn y Casgliadau o e-lyfrau y tanysgrifir iddynt, yn mynd yn syth at wefan pob darparwr a gellir chwilio'r rhain (fel rheol trwy'r tabl cynnyws neu'r testun llawn) gan ddefnyddio eu rhyngwyneb cynhenid, ond noder mai dim ond testun llawn yr e-lyfrau yr ydym wedi tanysgrifio iddynt y gallwch edrych arnynt, er y gall canlyniadau eich chwiliad gynnwys teitlau nad ydym yn tanysgrifio iddynt.
Ond, os ydych yn gwybod beth yw teitl y llyfr (e.e. o restr darllen) a'ch bod eisiau gwybod a oes gennyfynediad electronig i destun llawn y llyfr, neu eich bod eisiau gwybod pa e-lyfrau sydd gennym mewn maes pwnc eang e.e. ffiseg, gallwch wedyn chwilio Voyager - catalog y llyfrgell yn ôl teitl unigol (os ydych yn gwybod beth ydyw) neu trwy bori'r rhestr o e-lyfrau sydd ar gael trwy ddefnyddio un o'r dulliau isod:
- Chwiliad Rhif Dosbarth yn Voyager am Lyfrau Electronig (bydd hyn yn rhoi rhestr o'r holl e-lyfrau). NEU
- Defnyddio'r dewis Cyfyngu i er mwyn gosod Lleoliad Llyfrau Electronig ac yna chwilio (bydd hyn y cyfyngu eich chwiliad am bwnc penodol neu yn ôl awdur/allweddair i e-lyfrau'n unig. NEU
- Gwneud chwiliad Allweddair, trwy deipio e-lyfr ac awdur, neu allweddair o'ch dewis (e.e. e-lyfr seicoleg i ddod o hyd i e-lyfrau am seicoleg).
Casgliadau o e-lyfrau y tanysgrifir iddynt
- Academic Library
- Dawsonera e-books
- Gale Virtual Reference Library
- Greenwood Digital Collection
- netLibrary
Mae netLibrary yn safle e-lyfrau fasnachol sy'n arbenigo mewn teitlau ysgolheigaidd, cyfeirio a phroffesiynol. Mae PA wedi tanysgrifio i ddewis cychwynnol o dros 100 o e-lyfrau drwy netLibrary. Mae'r rhain yn bennaf yn gopïau digidol o destunau craidd dewisol a llyfrau benthyciad byr ym mhob pwnc. I gael mynediad at y teitlau hyn, naill ai chwiliwch trwy Voyager - catalog y llyfrgell neu ewch yn uniongyrchol i wefan netLibrary i chwilio drwy deitlau unigol neu'r casgliad llawn (noder y bydd chwilio trwy netLibrary yn dod o hyd i lyfrau yn y casgliad y tanysgrifir iddynt ac yng nghasgliad y netLibrary o e-lyfrau sydd ar gael yn rhad ac am ddim). - EEBO (Early English Books Online)
O'r llyfr cyntaf a argraffwyd yn Saesneg gan William Caxton, trwy oes Spenser a Shakespeare a therfysg Rhyfel Cartref Lloegr, mae EEBO yn cynnwys dros 125,000 o gyfrolau o weithiau cynnar a argraffwyd yn Saesneg a thros 22.5 miliwn o ddarluniau gwreiddiol o gasgliadau mawr o lyfrau, dramâu, barddoniaeth a theitlau cyfeirio hanfodol, gyda dyfyniadau a darluniau mynegedig, wedi'u rhestru yn:
- Pollar & Redgrave's Short-Title Catalogue (1475-1640)
- Wing's Short-Title Catalogue (1641-1700)
- Thomason Tracts (1640-1661)
- English Books tract Supplement (safbwynt ar lawer o agweddau ar fywyd Prydeinig yr 16eg a'r 17eg ganrif).
Mae testun llawn ar gael ar gyfer rhai teitlau. Mae gan y Brifysgol danysgrifiad llawn i'r ffynhonnell hon, ond gall defnyddwyr nad ydynt wedi tanysgrifio chwilio'r Featured Content (200 o weithiau ysgrifenedig) a lawrlwytho sampl o ddogfennau PDF i edrych arnynt all-lein.
Casgliadau Cyffredinol
- Mae Project Gutenberg yn cynnwys bron i 30,000 o e-lyfrau rhad ac am ddim (ar 13 Awst 2009) a hon yw'r wefan e-lyfrau hynaf (38 o flynyddoedd). Athroniaeth Project Gutenberg yw sicrhau bod wybodaeth, llyfrau a deunyddiau eraill ar gael i'r cyhoedd ar ffurf y gall y mwyafrif eang o gyfrifiaduron, rhaglenni a phobl eu darllen, eu defnyddio, eu dyfynnu a'u chwilio'n hawdd. Mae tri math o destun a y safle - llenyddiaeth ysgafn, llenyddiaeth drwm a thestunau cyfeirio. Defnyddiwch y dewis chwilio i weld beth sydd ar gael.
- Alex Catalogue of Electronic Texts
Mae'r casgliad hwn yn ymdrin â Llenyddiaeth Americanaidd a Saesneg ac Athroniaeth y Gorllewin a chaiff ei gasglu gan Eric Lease Morgan. Defnyddiwch y peiriant chwilio neu'r rhestrau pori ar y chwith i ddod o hyd i destunau - defnyddiwch 'local copy' i edrych ar y testun llawn ar-lein yn syth. Mae dewis i chwilio cynnwys y testunau y ceir hyd iddynt, defnyddio ffeiliau PDF a grëir ar y pryd a nodweddin eraill, ond mae'r rhain yn dechnegol iawn, ac mae'n rhaid lawrlwytho meddalwedd ar eu cyfer felly nid ydym yn eu hargymell. - ATHENA
Mae'r safle hon o'r Swistir yn rhestru dros 10,000 o lyfrau mewn amrywiol ieithoedd sy'n ymdrin â meysydd pwnc gwahanol. Mae dewisiadau chwilio ar gael. - Berkeley Digital Library SunSite
Casgliad cymharol fach o adnoddau penodol yw hwn, mae'n rhestru cymysgedd o archifau digidol testun a delwedd. Mae'n cynnwys yr Online Medieval and Classical Library. - Bibliomania
Maytech Publishing Ltd yw perchnogion y safle ac mae'n rhestru dros 2000 o destunay clasurol, gan gynnwys holl waith Shakespeare. Mae dewisiadau pori a chwilio ar gael o'r ddewislen ar yrochr chwith. Caiff y testunau eu rhannu'n dri chategori, sef darllen, astudio ac ymchwilio a chânt eu harddangos ar fformat fesul tudalen. - Carrie - Llyfrgell Elecronic Testun Llawn
Darperir y safle hon gan Sefydliad Prifysgol Ewropeaidd, yr Eidal ac mae'n llyfrgell ddigidol testun llawn. - Classic Bookshelf
Mae Classic Bookshelf yn cynnig mynediad yn rhad ac am ddim i weithiau mawr llenyddiaeth glasurol, caiff dros chwedeg o awduron eu cynnwys. Mae'r feddalwedd ar gyfer darllen y testun yn eich galluogi i ddewis maint y dudalen, wyneb teip, maint y testun, papur a lliwiau'r inc. Cewch hefyd ddewis defnyddio llyfrnod i gadw eich tudalen pan fyddwch yn gadael y safle. Defnyddiwch y map o'r safle i lywio'r safle. - Electronic Text Collections in Western European Literature
Darperir y dudalen hon gan Adran Astudiaethau Ewropeaidd Gorllewinol Cymdeithas Llyfrgelloedd Ymchwil a Choleg. Mae'n rhestru ffynonellau Rhyngrwyd ar gyfer testunau llenyddol mewn ieithoedd Ewropeaidd gorllewinol ar wahân i Saesneg. O fewn pob categori iaith caiff y casgliadau eu rhestru yn ôl maint gyda rhestr yn nhrefn y wyddor o awduron unigol. - Free Books
Casgliad o wefannau a gaiff eu lletya ar wefan Bruce's Australian E-Book Newsletter, sy'n rhoi mynediad yn rhad ac am ddim i e-lyfrau sydd ar gael drwy Lyfrgelloedd Digidol yn Awstralia, ac o amgylch y byd, casgliadau o Lyfrau Awstralaidd eraill rhad ac am ddim, Tudalennau/Safleoedd Llyfrau Rhad ac am Ddim Eraill yn Saesneg, Byd - Ieithoedd Eraill, Rhanbarthol a Chenedlaethol, Pynciau Unigol/Amrywiol, Testunau Cysegredig a Chrefydd. - Mae Glasgow Digital Library wedi cynhyrchu cyfres o e-lyfrau sydd ar gael yn rhad ac am ddim sy'n ymwneud â Glasgow a'r Alban. Mae'r llyfrau hyn wedi cael eu digideiddio a'u trosi i fformat y we yn y Ganolfan Ymchwil Llyfrgell Ddigidol o amrywiaeth o gasgliadau arbennig. Mae ymchwil yn parhau o ran mynegeio a datblygu e-lyfrau, a chaiff ei gyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu ac Ymchwil Prifysgol Strathclyde.
- Internet Public Library Online Texts Collection
Dyma brosiect ar y cyd rhwng Internet Public Library a Mente Testun Dyniaethau Prifysgol Michigan. Mae'r casgliad yn cynnwys cofnodion o dros 14,000 o deitlau y gellir eu pori yn ôl awdur, teitl neu Ddosbarthiad Degol Dewey. Mae dewis chwilio ar gael hefyd. - Online Library of Literature
Casgliad bach o glasuron llenyddol o'r c100 ganrif sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae'r safle wedi'i gosod allan yn syml, defnyddiwch y mynegai i'r awduron i bori beth sydd ar gael. - On-Line Books Page
Mae'r On-Line Books Page yn borth sy'n hyrwyddo mynediad i lyfrau sydd ar gael i'w darllen ar y Rhyngrwyd. Mae dewisiadau chwilio a phori amrywiol ar gael. Caiff yr adnodd ei chynnal gan Lyfrgell Prifysgol Pennsylvania - ManyBooks.net
- Oxford Text Archive (OTA)
- Gweler hefyd: Google Book Search
Casgliadau Arbenigol/Pwnc-benodol
- African American Women Writers of the Nineteenth Century
Darperir y safle hon gan Schomberg Center ac mae'n sicrhau bod 42 o weithiau cyhoeddedig ar gael ar-lein mewn testun llawn. Mae'r casgliad yn rhoi mynediad i feddyliau, safbwyntiau a galluoedd creadigol menywod du fel y cânt eu cofnodi mewn llyfrau a phamffledi a gyhoeddwyd ca 1920. Mae'r safle'n defnyddio fframiau i lywio'r testun llawn. - Llyfrau o'r Gorffennol
Mae Culturenet Cymru yn gweithio ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru i ddod â 'Llyfrau o'r Gorffennol' i'r byd, mae'r llyfrau pwysig hyn allan o brint ac mae'n anodd dod o hyd iddynt. Mae 'Llyfrau o'r Gorffennol' yn gasgliad o lyfrau electronig o ddiddordeb Cymreig sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim. Bydd yn debyg i ystaell ddarllen mewn llyfrgell sy'n cynnig mynediad i lyfrau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau o ran mynediad, bydd modd i'r darllenwyr 'fenthyca'r' llyfrau hyn cyhyd ag yr hoffent heb unrhyw ddirwyon,cardiau llyfrgell na chiwiau. - British Women Romantic Poets Project
Diben y prosiect hwn, a gynhelir gan Lyfrgell Shields, Prifysgol Califfornia, yw dylunio a datblygu rhifynnau electronig dibynadwy a manwl gywir o weithiau a gyhoeddwyd gan feirdd benywaidd Prydain rhwng 1789 a 1832. Mae dros 45 o deitlau wedi'u cynnwys, dewiswch y fformat HTML i gael y fformat gorau ar gyfer edrych ar y testun. - Celebration of Women Writers
Mae'r prosiect Celebration of Women Writers yn cydnabod cyfraniadau ysgrifenwyr benywaidd trwy gydol hanes. Mae'r casgliad yn rhoi rhestr gynhwysfawr o ddolenni i wybodaeth fywgraffyddol a llyfryddiaethol am ysgrifenwyr benywaidd, a llyfrau cyhoeddedig cyflawn a ysgrifennwyd gan fenywod. Mae dewisiadau pori yn ôl awdur a phori yn ôl categori ar gael. - Christian Classics Ethereal Library
Diben y llyfrgell CCEL yw gwasanaethau'r holl eglwys a chewch hyd i weithiau o amrywiaeth o safbwyntiau a thraddodiadau. Mae dros 200 o destunau ar gael i edrych arnynt fesul tudalen. - Dostoevsky Research Station
Mae'r safle hon yn cynnig testun ar-lein ar gyfer 9 o nofelau Fyodor Mikhailovich Dostoevsky (1821-1881), yn ogystal â safle gyfeirio ar gyfer astudio ei weithiau. - Early Americas Digital Archive
- Library of Economics and Liberty
Mae'r wefan hon, a gynhyrchwyd gan Liberty Fund Inc, yn ymroddedig i hyrwyddo astudiaeth ym maes economeg, rhyddid ac economïau marchnad. Mae yna dros ugain o awduron sy'n cynnig amrywiaeth o lyfrau a thraethodau. Mae dewisiadau chwilio a phori amrywiol ar gael. - Library of Southern Literature
Mae'r safle hon yn dilyn ymlaen o lyfryddiaeth a gasglwyd gan y diweddar Athro Robert Bain o'r Adran Saesneg ym Mhrifysgol Gogledd Carolina, ar y cyd â chydweithwyr mewn astudiaethau Deheuol ledled yr Unol Daleithiau. Diben y prosiect yw creu rhifynnau digidol o bob un o'r testunau hyn gan dynnu ar brif gasgliadau Deheuol y llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Gogledd Carolina yn Chapel Hill. Yr unig ddewis yw pori yn ôl awdur. - Luminarium
Tudalen bersonol Anniina Jokinen yw'r safle hon ac mae'n ymdrin â gweithiau ar-lein o'r oesoedd canol, y dadeni a dechrau'r 17eg ganrif. Mae'n cynnwys tua 40 o awduron ac mae gan y safle ddarluniau lliw a cherddoriaeth. Mae dewisiadau chwilio a phori ar gael. - Making of America
Mae Llyfrgell Prifysgol Cornell wedi mowntio'r llyfrgell ddigidol hon o ffynonellau cynradd ym maes hanes cymdeithasol America. Mae'r safle'n cynnwys darluniau o dros 100 o lyfrau a thros ugain o gyfnodolion. Dim on 6 eitem sydd â thestun electronig yn hytrach na darluniau. Mae dewisiadau pori a chwilio ar gael. - Online Medieval and Classical Library
Mae'r casgliad hwn o Lyfrgell Ddigidol Berkeley yn cynnwys rhai o weithiau llenyddol pwysicaf y gwareiddiad Clasurol a Chanoloesol. Mae dewisiadau chwilio a phori ar gael. - Oxford Text Archive
Mynediad i gasgliad eang o destunau electronig safonol, gweithiau cyfeirio, a chorpora ieithyddol: Mae gan ddefnyddwyr yr Oxford Text Archive fynediad i nifer fawr o adnoddau digidol. Mae llawer o'r adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim a gallant gael eu defnyddio gan unrhyw aelod o'r gymuned ymchwil a dysgu, er bod cyfygyniadau ar rai testunau penodol. - Perseus Project
Llyfrgell ddigidol i astudio'r byd hynafol a thu hwnt. Mae'n cynnwys cyfieithiadau Saesneg o weithiau awduron Groegaidd a Lladin a gweithiau llawn Christopher Marlowe. Mae yna nifer o ddewisiadau chwilio manwl. - Poetry Archive
- Victorian Women Writers Project
Mae'n ymdrin ag ysgrifenwyr benywaidd Prydain yn y 19eg ganrif ac mae'n cynnwys blodeugerddi, nofelau, pamffledi gwleidyddol, taflenni crefyddol, llyfrau plant, barddoniaeth, penillion a drama. Mae dogfennau ar gael gan dros 50 o awduron a sicrheir fod y testunau'n llawn a manwl gywir. - William Blake Archive
Mae'r safle hon yn dangos darluniau tudalen o weithiau gwreiddiol Blake (gyda thrawsgrifiadau testun) a thestun a nodiadau testunol o'r rhifyn diwygiedig o lyfr David V.Erdman ym 1988, sef The Complete Poetry and Prose of William Blake. - Works of William Shakespeare
Y gweithiau llawn wedi'u trefnu yn ôl categorïau - ffynhonnell wreiddiol y testun yw Complete Moby TM Shakespeare.
Adnoddau e-lyfrau eraill
- Easy Media Broadcast
Gwefan sy'n lletya e-lyfrau rhad ac am ddim yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Mae'n cynnwys llyfrau llafar. I ddarllen y llyfrau bydd yn rhaid i chi ddefnyddio'r TK3 Reader y gellir ei lawrlwytho o'r safle. - EBONI (Electronic Books ON-Screen Interface)
Cafodd prosiect EBONI ei gyllido gan JISC ac mae'n seiliedig ar Ganolfan Ymchwil Llyfrgell Ddigidol ym Mhrifysgol Strathclyde. Er bod y prosiect bellach wedi dod i ben, mae'r safle yn dal i fod ar gael ac mae'n cynnwys canllaw i ddylunio llyfrau electronig a rhestr o lyfrnodau. Mae catalog EBONI o Adnoddau Dysgu ac Addysgu Ar-lein bellach wedi cau; mae'r cofnodion bellach wedi'u hymgorffori i Intute http://www.intute.ac.uk (porth pwcn addysgol).