Arallenwau E-bost
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn sicrhau fod system o arallenwau e-bost ar gael i staff a grwpiau penodol eraill o ddefnyddwyr er hwylustod iddynt ac i’w helpu i wneud y system e-bost yn un mwy cyfeillgar i’w defnyddio.
Mae dau fath o arallenwau :
- rhai personol sy’n cynrychioli enw go iawn unigolyn
- rhai hynny sydd ar gael ar gyfer gwahanol grwpiau a phrosiectau.
Arallenwau Personol
- Mae arallenwau personol ar gael i bob aelod o’r staff.
- Dylent fod yn debyg i’r fformatau canlynol: H. Owen neu Hugh.Owen neu Hugh.H.Owen.
- Dim ond un arallenw personol all pob aelod o staff ei gael.
- Bydd arallenw personol yn parhau’n gyfredol cyhyd ag y mae’r defnyddiwr yn parhau wedi ei gofrestru yn PA.
Arallenwau Eraill
- Dylai arallenwau ar gyfer clybiau a chymdeithasau ei gwneud hi’n eglur beth yw swyddogaeth y clwb neu’r gymdeithas. Perchennog y clwb neu’r gymdeithas yw perchennog yr arallenw a rhaid adnewyddu aelodaeth yn flynyddol.
- Mae’n rhaid i arallenwau grwpiau eraill, e.e. grwpiau ymchwil, fod yn rhai priodol ac y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’n rheolau o ran bod yn dderbyniol.
- Bydd perchnogion arallenwau ar wahân i rai personol yn derbyn e-bost gan y system ganolog bob tair blynedd i'w holi a ydynt angen yr arallenw o hyd. Os na fyddwn ynd erbyn ymateb mhen 30 diwrnod, bydd yr arallenw'n cael ei ddileu.
Rheolau ynglŷn â’r hyn sy’n Dderbyniol i bob arallenw
NID yw’r canlynol yn arallenwau sy’n dderbyniol:
- Arallenwau â llythyren unigol
- Enwau personol unigol
- Unrhyw arallenw mewn fformat tebyg i fewngofnod sy’n bodoli eisoes, e.e. xxx, xxx2, xxx02
- Unrhyw beth anweddus neu annymunol
- Unrhyw beth y gellid ei gamgymryd am swyddogaeth neu swydd yn y Brifysgol.
Gwneud cais am arallenw
Mae arallenwau ebost ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Os oes angen arallenw arnoch os gwelwch yn dda ebostiwch gg@aber.ac.uk yn nodi:
- yr arallenw a ddymunir
- y cyfrif a fydd yn gysylltiedig â'r arallenw
- y rheswm dros gael arallenw
- am faint o amser yn eich tyb chi fydd ei angen