Negeseua Unedig (Lleisbost)
Mae Negeseua Unedig (NU) yn eich galluogi i gael mynediad i fathau gwahanol o gyfathrebu electronig (e.e. e-bost a lleisbost) gan ddefnyddio un rhyngwyneb amrywiaeth o ddyfeisiau.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, defnyddir seilwaith ffonau Microsoft Exchange ynghyd â Phrotocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) i ddarparu NU. Mae’n eich galluogi i dderbyn lleisbost yn eich mewnflwch e-bost y gellir wedyn ei gyrchu trwy ddefnyddio Outlook, Outlook Web Access,ffonau deallus (megis dyfeisiau Windows Mobile sy’n rhedeg Activesync neu Apple iphones) neu trwy alw rhif ar y teliffon.
Mae NU yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd trwy symleiddio eich cyfathrebu gan mai ond un lle sydd ar gael i wirio negeseuon (eich mewnflwch). Yn ogystal, mae modd hefyd trin lleisbost fel e-bost e.e. dargyfeirio, ateb ac ychwanegu nodiadau.
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi
- fod yn aelod o’r staff
- ddefnyddio Microsoft Exchange ar gyfer eich e-bost
- gael ffôn VOiP
- gael eich rhif ffôn personol, h.y. ddim yn rhannu rhif gydag eraill
Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais am y gwasanaeth ac ar sut i’w ddefnyddio i’w gael ar CHA Lleisbost