Rhoi adborth

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn croesawu ac yn annog defnyddwyr i gyflenwi adborth. Mae’r GG yn defnyddio amrywiaeth o fecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol i gynnal deialog â defnyddwyr, gofyn am adborth a sicrhau bod y gwasanaethau’n ymateb i ofynion ac anghenion cyfnewidiol defnyddwyr.

Ymholiadau: yn ogystal â desgiau ymholiadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn ein holl lyfrgelloedd sy’n cynnig cymorth personol, rydym yn derbyn ymholiadau drwy e-bost, ffôn, twitter/Facebook ac sgwrs arlein. Rydym yn ceisio ymateb i ymholiadau o fewn 3 diwrnod gwaith ond fel rheol byddwn yn ymateb o fewn 24 awr.

Gellir cyflwyno adborth, sylwadau ac awgrymiadau yn bersonol i aelod o staff yn unrhyw un o’n mannau gwasanaeth, drwy e-bost is-feedback@aber.ac.uk, ar-lein ar http://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/ neu trwy lenwi ffurflen awgrymiadau ar bapur yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd.

Ymateb GG i adborth:
Rydym yn rheolaidd yn dangos crynodeb o unrhyw adborth/sylwadau sy’n dod i law a’n hymatebion iddynt ar yr hysbysfyrddau yn ein llyfrgelloedd. Mae’r ymatebion i’n harolygon blynyddol i ddefnyddwyr a’r cynhaeaf syniadau ar gael ar ein gweddalennau ar: http://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/response/. Mae adborth ychwanegol am y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael drwy’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol. Caiff y data hwn ei ddefnyddio ynghyd â mecanweithiau adborth eraill i adolygu ein gwasanaethau.

Ymrwymiad defnyddwyr

  • Cynhelir Arolwg cynhwysfawr i Ddefnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth bob mis Mawrth yn ymdrin â’r holl wasanaethau ac yn darparu data cymharol y gallwn ei ddefnyddio i adnabod tueddiadau. Mae dadansoddiad bwlch yn adnabod y bylchau mwyaf rhwng “pwysigrwydd” a “bodlonrwydd” a defnyddir y wybodaeth hon i dargedu gwasanaethau ac adnoddau sy’n ymddangos yn llai llwyddiannus. Caiff adroddiadau ar ddarganfyddiadau eu gwneud i bwyllgorau perthnasol gan gynnwys Pwyllgor Defnyddwyr GG a chymerir camau i ymdrin â materion penodol.

  • Cynhelir Cynhaeaf Syniadau ym mis Tachwedd a thros y blynyddoedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ar un agwedd ar ddarpariaeth y GG ac fel rheol dim ond dau neu dri o gwestiynau sydd ynddo a lle i roi sylwadau. Cysylltir ag ymatebwyr unigol i drafod cwestiynau a materion unigol pan fo’n berthnasol.

  • Cynhelir wythnosau sampl 3 gwaith y flwyddyn i roi data mwy ansoddol am ymholiadau a gafwyd yn ein desgiau ymholiadau ac adborth uniongyrchol am ansawdd y gwasanaeth a roddir. Y bwriad yw mesur bodlonrwydd y defnyddwyr â gwasanaeth ymholiadau’r GG, deall y mathau o ymholiadau y mae staff y GG yn ymdrin â hwy ar y desgiau ymholiadau a thrwytho anghenion hyfforddi.

  • Grŵp Ffocws Myfyrwyr 24/7: Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi sefydlu Grŵp Ffocws GG fel mecanwaith ychwanegol ar gyfer monitro ein gwasanaethau. Mae’r grŵp ffocws yn cynnwys myfyrwyr, sydd, trwy gydol y flwyddyn, yn cydlynu â’r GG i roi adborth, awgrymu syniadau ar gyfer gwella gwasanaethau a chymryd rhan mewn grwpiau trafod rhithwir yn ogystal â rhai cyfarfodydd wyneb i wyneb.

 Cyfarfodydd

  • Pwyllgor Defnyddwyr GG: cyfarfod â chynrychiolwyr GG a staff GG.
  • Cyfarfodydd ‘bord gron’ dwyochrog gyda’r holl adrannau academaidd
  • Presenoldeb staff y GG yn y cyfarfodydd adrannol a chyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr i drafod materion sy’n ymwneud â darpariaeth y GG.
  • Grŵp Llywio Dysgu ac Addysgu Ar-lein Aberystwyth (ALTO).