Gwasanaethau i Staff Academaidd

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig ystod o wasanaethau i staff academaidd i gynorthwyo dysgu ac ymchwil. Ceir gwybodaeth gyffredinol am y gwasanaethau sydd ar gael i'r holl staff ar ein tudalen Gwybodaeth i staff newydd.

Gwasanaethau rhestr ddarllen

Gall staff y Gwasanaethau Gwybodaeth eich helpu i wneud y pethau canlynol

  • Prynu deunydd newydd i'r llyfrgell
  • Gwneud cais i newid manylion stoc e.e. gwahanol gyfnodau benthyg ar gyfer eitemau unigol
  • Gosod rhestrau darllen eich modiwl ar y we
  • Trefnu i ddigido penodau ac erthyglau o gylchgronau sydd ar restrau darllen y modiwlau

Gwasanaethau Llyfrgellwyr Cymorth Pwnc

  • Pwy yw eich llyfrgellydd cymorth pwnc?

Cysylltwch â'ch llyfrgellwyr cymorth pwnc am unrhyw un o'r gwasanaethau canlynol

  • Ymweliad neu daith gyflwyniadol i weld cyfleusterau'r llyfrgell ar adeg sy'n gyfleus i chi
  • Ymholiadau am unrhyw fater sy'n ymwneud â'ch pwnc
  • Cyngor ar brynu deunydd llyfrgell
  • Trefnu treialon a thrafod prisiau adnoddau gwybodaeth electronig
  • Cyngor ar ddefnyddio gwybodaeth electronig ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Hyfforddiant pwrpasol i fyfyrwyr ar sgiliau gwybodaeth fel rhan o'ch modiwlau neu raglenni dysgu eraill.
  • Sesiynau cynghori un-i-un - gallwn ymweld â chi ar y campws drwy apwyntiad
  • Sesiynau adfywio / diweddaru i grwpiau o staff

Gwasanaethau E-ddysgu

Meddalwedd ar gais

Gall staff y Gwasanaethau Gwybodaeth wneud y pethau canlynol

  • gosod meddalwedd ar weithfannau cyhoeddus
  • llwytho ffeiliau enghreifftiol (at ddibenion dysgu) ar weithfannau cyhoeddus
  • darparu meddalwedd wedi'i drwyddedi ar gyfer safleoedd, i'w osod ar gyfrifiaduron y sefydliad

Cysylltu gydag adrannau academaidd

Mae llyfrgellwyr cymorth pwnc yn cysylltu'n uniongyrchol â chynrychiolwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth, sy'n cynnwys aelodau o staff academaidd o bob adran. Mae'r fforymau eraill yn cynnwys

  • Byrddau Crwn: cyfle i staff y Gwasanaethau Gwybodaeth drafod newidiadau strategol i ddiwallu anghenion adrannau'n fwy effeithiol, a rhoi adroddiadau ar ddigwyddiadau a datblygiadau perthnasol
  • Mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn mynychu y Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr adrannol i ateb cwestiynau a chael adborth y staff a'r myfyrwyr, ac i roi adroddiadau ar unrhyw adnoddau neu wasanaethau newydd.

Canllawiau gwasanaeth y Gwasanaethau Gwybodaeth

  • I adrannau academaidd
  • I fyfyrwyr