Clinigau’r Gwasanaethau Gwybodaeth
- A hoffech gael 30 munud o amser rhywun i’ch helpu â phroblem gyfrifiadurol?
- A ydych chi angen help gyda dogfen sy’n achosi problemau i chi?
- A hoffech chi gael rhywun i’ch helpu i greu troednodiadau a llyfryddiaeth?
- Ydych chi eisiau i rywun ddangos i chi sut mae defnyddio’r Adnoddau Gwybodaeth Electronig?
- A hoffech chi gael cymorth i ddefnyddio SharePoint?
- A hoffech chi gael cymorth i ddefnyddio Primo a/neu ddod o hyd i wybodaeth am eich maes astudio chi?
- A ydych am rywfaint o hyfforddiant technegol neu gymorth i ddefnyddio unrhyw un o’n technolegau ar gyfer dysgu ac addysgu (e.e. AberLearn Blackboard, blogiau Pecynnau Campws/wicis/podlediadau, Panopto i gipio darlithoedd, Quizdom – system bleidleisio ryngweithiol a.y.b)?
- A fuasech yn hoffi archwilio sut y gellir defnyddio technoleg i gyfoethogi profiad dysgu eich myfyrwyr o berspectif addysgol?
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth clinig lle gallwn gynnig cymorth un-i-un i ddefnyddwyr sy’n cael problemau wrth ddefnyddio’r adnoddau yr ydym yn eu darparu, er enghraifft adnoddau electronig, Blackboard, Microsoft Office neu feddalwedd arall. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bob defnyddiwr ym Mhrifysgol Aberystwyth (os oes staff ar gael) ond mae’n rhaid gwneud apwyntiad i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Sut mae’n gweithio?
- Gall defnyddwyr wneud apwyntiad i gael cymorth gydag unrhyw ymholiad sydd ganddynt. Noder nad sesiwn a ddysgir yn ffurfiol yw hon ond cyfle i ddefnyddwyr ofyn cwestiynau.
- Mae’r apwyntiadau ar gael am gyfnod o hanner awr ar y tro, ac mae modd i ddefnyddwyr archebu uchafswm o ddau apwyntiad ar ôl ei gilydd.
- Fel rheol cynhelir apwyntiadau’r clinig ar ddydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau
- Mae’n bosibl i fwy nag un defnyddiwr (hyd at uchafswm o dri) ddod i bob apwyntiad os oes ganddynt yr un ymholiad.
Ffurflen Archebu
tfa_Eichenw,tfa_EichcyfeiriadebostPrifysgo,tfa_Naturyrymholiad,tfa_Rhestrwchunrhywboblerailla