Dysgwyr o Bell
Y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiaduron a chyfryngau i Brifysgol Aberystwyth.
Mae gan bob myfyriwr dysgu o bell sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd hawl i gael mynediad at adnoddau llyfrgell, e-bost a chyfrifiadurol y Brifysgol, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
I ddefnyddio ein hadnoddau bydd yn rhaid i chi gael cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth a cherdyn Aber. Mae trefniadau arbennig yn eu lle i sicrhau bod myfyrwyr sy'n dysgu o bell yn gallu manteisio i'r eithaf ar y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Cerdyn Aber
Er nad ydynt yn seiliedig ar y campws, dylai myfyrwyr sy'n dysgu o bell wneud cais am gerdyn Aber er mwyn iddynt:
- allu adnewyddu eu benthyciadau llyfrgell ar-lein
- allu llungopïo, argraffu a defnyddio'r ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr pan fyddant yn ymweld â'r campws, naill ai i fynd i ysgol astudio neu i wneud gwaith ymchwil
Ceir rhagor o fanylion am fanteision eraill eich cerdyn Aber a sut mae gwneud cais am un ar weddalen Cerdyn Aber.
Cyfrif e-bost
Bydd yn rhaid i chi gychwyn eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth yn fuan cyn i'ch cwrs ddechrau. Bydd hyn yn golygu y cewch ddefnyddio
- Blackboard
- E-bost
- eLyfrgell (adnoddau electronig)
- Storfa ffeiliau
- Moodle (Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn unig)
- Eich cyfrif llyfrgell
Bydd modd i chi gychwyn eich cyfrif ar-lein yn fuan cyn i'ch cwrs ddechrau o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â'r Rhyngrwyd drwy ein ffurflen cychwyn ar-lein.
Noder:
- Mae'r Brifysgol yn defnyddio e-bost fel ffordd swyddogol o gyfathrebu ac mae'n rhaid i chi edrych ar eich e-bost Prifysgol yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael negeseuon pwysig gan y Brifysgol.
- Mae'n rhaid i chi newid eich cyfrinair bob blwyddyn. Byddwn yn eich e-bostio pan fydd angen i chi wneud hyn ac os nad ydych yn newd eich cyfrinair erbyn y dyddiad a roddir, bydd eich cyfrif yn cael ei gloi ac ni fydd modd i chi ddefnyddio adnoddau'r Brifysgol, er enghraifft, e-bost, Blackboard, e-gyfnodolion.
Ar ôl i chi gychwyn eich cyfrif byddai'n ddefnyddiol iaw pe gallech ddarparu rhywfaint o wybodaeth er diogelwch ermwyn i ni allu cadarnhau pwy ydych chi os byddwch chi angen cymorth o bell.
Primo (adroddau electronig)
- Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn tanysgrifio i amrywiaeth each o ffynonellau gwybdaeth ar-lein gan gynnwys e-gyfnodolion ac e-lyfrau sydd ar gael oddi ar y campws i fyfyrwyr sy'n dysgu o bell. Mae'r rhain at gael trwy ein Primo:
- Ewch i http://primo.aber.ac.uk/
- Cliciwch ar Gronfeydd Data A-Z
- Ceir cyfarwyddiadau ynghylch defnyddio'r adnoddau hyn oddi ar y campws yn ein Cwestiwn Cyffredin ynghylch defnyddio e-adnoddau oddi ar y campws.
- Os oes arnoch angen chwilio cronfa ddata nad oes gennych fynediad ati eich hun, gallwn chwilio ar eich rhan ac anfon y wybodaeth atoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn.
Storfa ffeiliau
Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael storfa ffeiliau o 2GB ar ein rhwydwaith i wneud copïau wrth gefn o'u ffeiliau. Gallwch gysylltu â'r storfa ffeiliau hon o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â'r Rhyngrwyd - hyd yn oed os nad ydych ar y campws. Mae hyn yn rhoi llei diogel i chi gadw eich ffeiliau ac mae copïau wrth gefn yn cael eu gwneud yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am y storfa ffeiliau sydd ar gael i chi ar ein gweddalen storfa ffeiliau.
Cymorth a chefnogaeth
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau a'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig:
- bydd y tudalennau llyfrgelloedd ac adnoddau dysgu yn rhoi gwybodaeth i chi am fanteisio i'r eithaf ar lyfrgelloedd a chasgliadau'r Brifysgol
- bydd y tudalennau gwybodaeth pwnc yn eich helpu i fynd yn syth at yr adnoddau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch pwnc astudio chi a byddant hefyd yn eich cyflwyno i'ch llyfrgellydd pwnc a gallwch gysylltu ag ef/hi os oes arnoch angen cymorth
- bydd y tudalennau sgiliau gwybodaeth yn rhoi awgrymiadau a chyngor i chi ynghylch dod o hyd i, a defnyddio, adnoddau a gwella eich sgiliau gwybodaeth
- bydd y tudalennau cwestiynau cyffredin yn rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i chi o ran defnyddio ein hadnoddau a'n gwasanaethau.
Adnoddau llyfrgell
- Mae Primo - sef catalog y llyfrgell ar gael ar y campws ac oddi arno ar: http://primo.aber.ac.uk/
- Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi â'ch eich enw defnyddiwr a chyfrinair y Brifysgol i ddefnyddio eich cyfrif llyfrgell ac i adnewyddu llyfrau ar-lein.
- Benthyciadau:
- Pan fyddwch wedi cofrestru â'r Gwasanaethau Gwybodaeth, bydd gennych hawl i fenthyca hyd at 15 o lyfrau o lyfrelloedd Prifysgol Aberstwyth - o'r casgliadau arbennig i ddysgwyr o bell â'r benthyciadau safonol arferol yn unig.
- Dylai myfyrwyr sy'n dysgu o bell gysylltu â'r llyfrgell briodol i wneud cais am lyfrau.
- Mae casgliad arbennig i ddysgwyr o bell ar gael yn yr Ardal Benthyciadau Byr yn yr llyfrgell Thomas Parry a gellir adnobod y llyfrau yn ôl stribyn gwyrdd ar feingefn y llyfr a label dyddiad gwyrdd ar y tu mewn. Gall myfyrwyr eraill fenthyca'r llyfrau hyn, ond dim ond am 1 diwrnod, mae gan ddysgwyr o bell gyfnod benthyca hwy.
- Y cyfnod benthyca arferol yw pedar wythnos. Byddwn yn caniatáu i chi adnewyddu llyfrau trwy e-bost, ffôn, post neu ffacs os nad oes angen y llyfrau ar rywun arall.
- Cyflenwad Dogfennau - Llyfrau yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth: os ydych yn gwneud cais, gall y Llyfrgell anfon eitemau benthyca ymlaen i'r cyfeiriad sydd gennym ar ffeil ar eich cyfer. Gallwch ddychwelyd eitemau drwy'r post, cyhyd â'ch bod yn eu hanfon trwy bost ffi iawndal. Chi fydd yn gyfrifol am yr holl eitemau nes bod y Llyfrgell yn eu cael yn ôl. Cymerwch sylw arbennig o'r dyddiad dychwelyd ar gyfer benthyciadau. Bydd yn rhaid talu dirwy am eitemau hwyr.
- Cyflenwad Dogfennau - Llungopïo: gellir archebu copïau o erthyglau mewn cyfnodolion a darnau byr o lyfrau trwy lenwi ffurflen datganiad hawlfraint a thalu am gostau llungopïo a phostio. (Isafswm tâl o £2.50 a 5c y dudalen wedi hynny).
- Cyflenwad Dogfennau - Eitemau o lyfrgelloedd eraill: cysylltwch â'r unigolyn priodol isod a bydd modd iddo/iddi eich helpu i gael eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn rhaid talu am y gwasanaeth hwn. Noder na allwn ddarparu llyfrau neu draethodau ymchwil drwy fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd i fyfyrwyr dysgu o bell yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Dylid archebu'r rhain drwy eich llyfrgell leol.
- Gall myfyrwyr dysgu o bell PA gael mynediad i adnoddau llyfrgell mewn prifysgolion eraill.
- Gellir trefnu sesiynau arbennig ar gyfer cynefino â'r llyfrgell os ydych yn dod ar gyrsiau yn y Brifysgol.
Ymwled â'r campws
Os ydych chi'n dod i'r campws am ysgol astudio, neu i wneud gwaith ymchwil, bydd gennych yr un mynediad i adnoddau â myfyrwyr amser-llawn: