ISBN, ISSN ac Adneuo Cyfreithiol

Os byddwch chi neu’ch Athrofa yn cyhoeddi llyfr, cyfnodolyn neu gyfres o fonograffau mewn print neu ar-lein, efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • cael rhif ISBN (ar gyfer llyfrau a chyhoeddiadau eraill unigryw)
  • cael ISSN ar gyfer cyfnodolion neu gyfres
  • adneuo cyfreithiol (gofyniad cyfreithiol ar gyfer pob cyhoeddiad yn y DU ac Iwerddon)
  • Cael rhif DOI (Digital Object Identifier) i gwaith ar-lein.

    Os yw’r cyhoeddiad yn PURE a'r porth ymchwil, bydd DOI yn cael ei aseinio i'r cofnod fel rhan o'r broses ddilysu.

    Os hoffech gael DOI wedi'i aseinio i unrhyw allbynnau digidol eraill, cysylltwch â pure@aber.ac.uk a byddwn yn gweithio trwy'r broses gyda chi.

ISBN

Nid oes gofyniad cyfreithiol i lyfr gael ISBN (Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol) ond mae’n helpu o ran catalogio ac os hoffech werthu eich llyfr drwy siopau llyfrwerthu mawr, neu lyfrwerthwyr ar y rhyngrwyd, byddant yn gofyn i chi gael rhif ISBN.

Ceir rhai mathau o gyhoeddiadau nad ydynt yn gymwys am rif ISBN. Mae’r rhain yn cynnwys calendrau, dyddiaduron, fideos adloniant, rhaglenni dogfen ar fideo neu CD-ROM, gemau cyfrifiaduron, pecynnau rhaglenni cyfrifiadurol, ac eitemau sydd ar gael i grŵp cyfyngedig o bobl yn unig, e.e. llyfr cwrs addysgol sydd ar gael i’r rhai sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr ar y cwrs yn unig.

Mae’n bosibl cael rhif ISBN cyn cyhoeddi fel y gellir ei argraffu ar gefn y dudalen deitl a’i ddyfynnu yn y llenyddiaeth hysbysebu. Mae cael rhif ISBN a rhoi manylion y llyfr i Nielsen Bookdata yn rhoi’r fantais arbennig o sicrhau cofnod yn y cyhoeddiad wythnosol, The Bookseller, sy’n hyrwyddo gwerthiant.

Sut i wneud cais am ISBN

Mae gan Lyfrgell Prifysgol Aberystwyth rifau ISBN y gellir eu defnyddio ar gyfer cyhoeddiadau gan adrannau ac athrofeydd yn y Brifysgol.  Cysylltwch â’r adran Caffael Deunyddiau Llyfrgell (acqstaff@aber.ac.uk  estyniad 2402) a byddant hwy’n darparu’r rhif ISBN.

Os hoffech hunan-gyhoeddi y tu allan i’r Brifysgol, bydd rhaid i chi gael eich rhifau ISBN eich hun. Yn y DU mae’r Asiantaeth ISBN yn ymdrin â phob cais am rifau ISBN newydd. Gall unrhyw gyhoeddwr sy’n cyhoeddi cynnyrch cymwys i’w ddosbarthu neu’i werthu’n gyffredinol wneud cais os ydynt yn talu ffi gofrestru. Yn gyfnewid am hyn mae’r Asiantaeth yn darparu 10 rhif ISBN. Gellir prynu mwy o rifau, ond nid oes modd cael un rhif ISBN sengl. Yr amser safonol ar gyfer y gwasanaeth yw 10 diwrnod gwaith o’r amser y mae’r Asiantaeth yn derbyn cais wedi’i lenwi’n gywir. Mae yna hefyd wasanaeth Llwybr Carlam, sy’n cymryd 3 diwrnod gwaith, ond codir tâl ychwanegol am hyn.

Sut y caiff rhif ISBN ei greu

Mae gan bob cyhoeddwr rif, sy’n cael ei ragflaenu gan god cynnyrch o naill ai 978 neu 979, a gan 0- neu 1- sy’n dynodi’r gwledydd Saesneg eu hiaith. Ar ôl rhif y cyhoeddwr daw rhif y llyfr unigol, a’r bedwaredd a’r olaf o’r adrannau ar gyfer y rhif yw digid gwirio at ddibenion cyfrifiaduron.

Felly mae rhif ISBN Prifysgol Aberystwyth, sef ISBN 978-0-9926940-0-5 yn golygu:

978- cod cynnyrch a ddefnyddir ar gyfer llyfrau
0- cyhoeddwr Saesneg ei iaith
9926940- Prifysgol Aberystwyth
0- dynodwr ar gyfer teitl penodol
5 digid gwirio

ISSN

Mae’r Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN) yn god a dderbynnir yn rhyngwladol sy’n adnabod teitl cyhoeddiadau cyfresol ac fe’i darperir yn rhad ac am ddim.

Yn y DU, Canolfan ISSN y DU yn y Llyfrgell Brydeinig sy’n gyfrifol am neilltuo rhifau ISSN i’r cyfresi a gyhoeddir.

Yn yr un modd â rhif ISBN mae’n bosibl cael rhif ISSN cyn cyhoeddi.

Rhaid i gyhoeddiadau cymwys fod yn "adnodd parhaus mewn unrhyw gyfrwng, wedi’i gyhoeddi mewn olyniaeth o rannau arwahanol [ac â theitl cyffredin], fel rheol wedi’u rhifo, heb ddiwedd gosodedig. Mae enghreifftiau o gyfresi’n cynnwys cyfnodolion, cylchgronau, cyfnodolion electronig, cyfeiriaduron parhaus, adroddiadau blynyddol, papurau newydd a chyfresi monograffig."

Dyma’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen:

  • Teitl arfaethedig (nid yw teitlau gwaith / teitlau prosiect yn ddigonol);
  • Amlder y cyhoeddi;
  • Dyddiad dechrau arfaethedig (mis / blwyddyn);
  • Enw a chyfeiriad y cyhoeddwr.

Bydd y Ganolfan hefyd angen copi o’r cyhoeddiad cyntaf ar ôl ei gyhoeddi er mwyn dilysu eu cofnodion. Caiff y copi hwn ei basio drwy’r Swyddfa Adneuo Cyfreithiol a gall cyhoeddiadau dilynol gael eu hanfon yn syth atynt hwy.

ISSN UK Centre
The British Library
Boston Spa, Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BQ
Ffôn: 01937 546959
E-bost: issn-uk@bl.uk

Adneuo Cyfreithiol

Mae gan gyhoeddwyr a dosbarthwyr yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon rwymedigaeth gyfreithiol i anfon un copi o bob un o’u cyhoeddiadau i Swyddfa Adneuo Cyfreithiol y Llyfrgell Brydeinig o fewn un mis ar ôl cyhoeddi’r gwaith yn unol â Deddf Adnau Cyfreithiol Llyfrgelloedd 2003 a Deddf Hawlfraint a Hawliau Perthnasol 2000. Cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw anfon hwn, heb fod angen gofyn. Dylai’r cyhoeddwyr anfon un copi o’u cyhoeddiad i:

Legal Deposit Office
The British Library
Boston Spa, Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BY
Ffôn: 01937 546268
E-bost: legal-deposit-books@bl.uk
E-bost: legal-deposit-serials@bl.uk
Gwefan: https://www.bl.uk/legal-deposit

Yn ogystal â hyn mae Deddf Adnau Cyfreithiol Llyfrgelloedd 2003 a Deddf Hawlfraint Iwerddon 1963 yn rhoi hawl i Lyfrgell Bodleian yn Rhydychen, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn gael copi rhad ac am ddim ar gais. Caiff y cais ei wneud fel rheol o fewn rhai misoedd i’r dyddiad cyhoeddi.

Gellir anfon copïau (heb aros am gais o reidrwydd) i:

Agency for the Legal Deposit Libraries
161 Causewayside
Edinburgh
EH9 1PH
Ffôn: 0131 623 4680
Ffacs: 0131 623 4681
E-bost: publisher.enquiries@legaldeposit.org.uk
Gwefan: http://www.legaldeposit.org.uk/