Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Uwchraddedig

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.

 

Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber ar-lein fel ei fod yn barod ichi pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

Canllaw Llyfrgell a TG hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd

I wybod mwy am gyfleusterau Llyfrgell a ThG os gwelwch yn dda gweler ein Canllaw Llyfrgell a TG ar gyfer myfyrwyr newydd

Gwasanaethau i Uwchraddedigion

  • Os ydych yn dysgu yn ystod eich ymchwil uwchraddedig mae’n bosib y bydd rhywfaint o’r wybodaeth sydd ar ein tudalen i Staff Academaidd newydd o ddefnydd i chi.

 

Caffael adnoddau llyfrgell

Gwasanaethau E-ddysgu

Primo: chwilio catalog y llyfrgell

Y chwiliad rhagosodedig yw o gatalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth:

Primo: chwilio am erthyglau

  • Gellir defnyddio Primo i chwilio am filiynau o erthyglau mewn cyfnodolion a chofnodion cronfa ddata, gyda doleni testun llawn, wedi'u cynaeafu gan gyhoeddwyr sy'n cymryd rhan; wrth chwilio, dewiswch Erthyglau o'r ddewislen ar ochr dde'r blwch chwilio.
  • Am wybodaeth ar sut i chwilio am erthyglau gan ddefnyddio Primo, gweler ein CHA.

Primo: dod o hyd i adnoddau electronig

  • Cliciwch ar Rhestr E-adnoddau yn Primo i bori trwy ein holl gronfeydd data tanysgrifedig yn ogystal â rhai adnoddau o ansawdd sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim
  • Cadwch lygad barcud am y botymau @Aber mewn canlyniadau chwilio ar gronfeydd data tanysgrifedig; bydd clicio ar y botwm yn gwirio ein casgliadau e-gyfnodolion i weld os yw’r erthyglau testun cyfan ar gael

Mynediad i e-adnoddau Prifysgol Aberystwyth ar-lein oddi ar y campws

  • Dilynwch y cyngor hwn pan fyddwch yn gweithio oddi ar y campws i sicrhau y gallwch ddefnyddio’r e-lyfrau, yr e-gyfnodolion a’r cronfeydd data ar-lein y mae Prifysgol Aberystwyth wedi tanysgrifio iddynt

Mynediad Agored

  • Arweiniad a ffurflenni ar gyfer adneuo eich traethawd ymchwil electronig
  • Mae’r Brifysgol yn cefnogi darparu mynediad agored i holl gynnyrch ymchwil ei staff yn ogystal â thraethodau ymchwil PhD llwyddiannus drwy’r Porth Ymchwil Aberystwyth

Gwasanaethau hysbysu

  • Gallwch nodi meini prawf ar Primo i gael negeseuon i’ch hysbysu pan ddaw stoc i’r llyfrgell sy’n cyfateb i’ch chwiliadau rheolaidd
  • Mae llawer o gronfeydd data a chasgliadau cyfnodolion ar-lein yn cynnig gwasanaethau hysbysu. Yn arbennig, mae ZETOC yn eich galluogi i ddarparu chwiliad testun rhydd i gael hysbysiadau am dablau cynnwys o gyfnodolion y mae’r Llyfrgell Brydeinig wedi tanysgrifio iddynt

Meddalwedd rheoli cyfeiriadau

Mae hyfforddiant a chymorth lleol ar gael ar gyfer EndNote pen desk (Windows a Mac) ac EndNote ar-lein, yn ogystal â’r adnodd Dyfyniadau a Llyfryddiaeth (MS Word). Cysylltwch â’ch llyfrgellwyr pwnc.

Hyfforddiant Sgiliau

Yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Ymchwilydd a gydlynir gan Ysgol y Graddedigion, mae dosbarthiadau dewisol ar gael trwy’r Rhaglen Arferion Astudio Uwchraddedig a gynhelir ar brynhawniau dydd Mercher yn ystod y tymor gan Cymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Ymholiadau am wybodaeth pwnc a hyfforddiant

Os oes gennych ymholiadau ynglyn â’ch pwnc neu sgiliau gwybodaeth, neu i gael cymorth un-i-un neu hyfforddiant ar gais, cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc yn uniongyrchol naill ai drwy’r ffôn, e-bost neu sgwrs, neu e-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk.