Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiaduron a chyfryngau i Brifysgol Aberystwyth.
Mae gan bob myfyriwr Dysgu Gydol Oes sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd hawl i ddefnyddio’r llyfrgell, e-bost ac adnoddau cyfrifiadurol yn y Brifysgol, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
I ddefnyddio ein hadnoddau bydd yn rhaid i chi gael cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth a cherdyn Aber.
Cerdyn Aber
Mae eich cerdyn Aber yn eich galluogi i
Ceir rhagor o fanylion am fanteision eraill eich cerdyn Aber a sut mae gwneud cais am un ar weddalen Cerdyn Aber.
Cyfrif e-bost
Mae eich cyfrif e-bost yn eich galluogi i ddefnyddio
- E-bost y Brifysgol
- Cyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd a’r ystafelloedd cyfrifiaduron ledled y campws
- Ffynonellau gwybodaeth electronig e.e. elyfrau, egyfnodolion
- Storfa ffeiliau rwydweithiol i wneud copïau wrth gefn o’ch gwaith
- Eich cyfrif llyfrgell i edrych ar wybodaeth am eich benthyciadau
Bydd modd i chi gychwyn eich cyfrif e-bost Prifysgol yn fuan cyn i’ch cwrs ddechrau trwy http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/cymraeg/faq/14/ .Bydd arnoch angen eich rhif myfyriwr a gallwch gael hwn o’r Swyddfa Gyffredinol Dysgu Gydol Oes.
Ond, os na wnaethoch chi roi’ch dyddiad geni ar eich ffurflen gofrestru ni fydd modd i chi gychwyn eich cyfrif ar-lein, bydd yn rhaid i chi ymweld â’r Ddesg Gwasanaeth Cwsmeriaid, gan ddod â rhyw fath o lun i brofi pwy ydych chi, er mwyn i ni allu eich helpu i gychwyn eich cyfrif.
Ar ôl i chi gychwyn eich cyfrif byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech roi rhywfaint o wybodaeth diogelwch i ni er mwyn i ni allu cadarnhau pwy ydych chi os bydd arnoch angen cymorth o bell.
Primo (adnoddau electronig)
- Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn tanysgrifio i amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth ar-lein gan gynnwys e-gyfnodolion ac e-lyfrau sydd hefyd ar gael oddi ar y campws. Mae’r rhain ar gael drwy Primo http://primo.aber.ac.uk
- Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r adnoddau hyn oddi ar y campws yn ein Cwestiwn Cyffredin ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws
Adnoddau’r llyfrgell
- Mae Primo – catalog y llyfrgell ar gael ar y campws ac oddi arno ar: http://primo.aber.ac.uk
- Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi â'ch eich enw defnyddiwr a chyfrinair y Brifysgol i ddefnyddio eich cyfrif llyfrgell er mwyn i chi allu cadw llyfrau neu’u hadnewyddu ar-lein.
- Ceir gwybodaeth am ddefnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol a benthyca o’n casgliadau ar ein gweddalennau Llyfrgell
- Yn ogystal â defnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol gallwch hefyd ddefnyddio adnoddau llyfrgell mewn llyfrgelloedd eraill.
Storfa ffeiliau
Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael 2GB o storfa ffeiliau ar ein rhwydwaith i wneud copïau wrth gefn o’u ffeiliau. Gallwch gysylltu â’r storfa ffeiliau hon o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd – hyd yn oed os nad ydych chi ar y campws. Mae hyn yn rhoi lle diogel i chi gadw eich ffeiliau a chaiff copïau wrth gefn eu gwneud yn rheolaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am y storfa ffeiliau sydd ar gael i chi ar ein gweddalen Storfa Ffeiliau
Ymweld â’r campws
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael i chi pan fyddwch yn ymweld â’r campws: