Sgiliau Gwybodaeth

Mae llyfrgelloedd y Brifysgol yn storio miloedd o lyfrau a chyfnodolion ac maent yn prynu deunyddiau newydd argraffedig a digidol yn rheolaidd. Mae defnyddio catalog llyfrgell ar-lein i ddod o hyd i lyfr yn y llyfrgell yn un o'r sgiliau gwybodaeth eang sy'n hanfodol ar gyfer astudiaeth effeithlon mewn addysg uwch. Mae'r dudalen hon yn cynnwys amrywiaeth o gyfarwyddiadau lleol, ffynonellau hyfforddi a gwybodaeth ynghylch sut y gallwn eich helpu.

Myfyrwyr a staff newydd

Sgiliau Gwybodaeth: i'ch helpu i astudio'n effeithiol

  • Cyfeirio llyfryddiaethol gan gynnwys
    • cyngor ynghylch pwysigrwydd cyfeirio cywir a chyson mewn addysg uwch
    • sut mae casglu cyfeiriadau llyfryddiaethol a'u dyfynnu fel ôl-nodion, troednodiadau a llyfryddiaethau
    • meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu gan gynnwys EndNote
  • Osgoi llên-ladad
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich pwnc astudio
  • Gwerthuso'r wybodaeth yr ydych yn dod o hyd idi ar y rhyngrwyd
  • Chwilio ar y Rhyngrwyd ac ar Byrth Pwnc
  • Dod o hyd i fathau gwahanol o wybodaeth
  • Adnoddau
    • Y Casgliad Astudio Effeithiol
    • Cyrsiau
    • Clinigau
    • Hyfforddiant ar eich cyflymder eich hun

Cymorth a Chyngor

Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt yn cael eu trafod yn y tudalennau hyn, cysylltwch â ni i gael rhagor o gymorth a cefnogaeth.

Y Ganolfan Iaith a Dysgu

Mae Canolfan Iaith a Dysgu PA yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cefnogi asudiaethau i fyfyrwyr y Brifysgol. Mae hefyd yn darparu cyngor ymarferol ynghylch sut mae datblygu'r sgiliau angenrheidiol i astudio'n effeithiol. Mae'r gwasanaethau cefnogi eraill yn cynnwys seminarau yn ystod y sesiwn, taflenni cymorth a seminarau 'Agored i Ysgrifennu' unigol. Ewch i wefan y Ganolfan Iaith a Dysgu i gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt.