Dod o hyd i ddeunydd yn y Llyfrgell
Mae'r arweiniad hwn yn rhoi cyngor cyffredinol ar sut i ddod o hyd i wybodaeth. Os cewch unrhyw anhawster bydd staff y llyfrgell yn barod i'ch helpu.
Camau cyntaf
Pan fyddwch yn ymchwilio i bwnc newydd, mae'n werth treulio ychydig amser yn ystyried yr holl agweddau mae'r pwnc yn eu cwmpasu. Yng Nghasgliad(au) Cyfeiriol y llyfrgell rydych yn ei defnyddio, mae gwyddoniaduron a geiriaduron cyffredinol ac arbenigol a fydd o gymorth i chi gael golwg gyffredinol ar y pwnc. Fe fyddant hefyd yn gymorth i chi ddeall union ystyr unrhyw dermau neu iaith dechnegol. Bydd y gwyddoniaduron hefyd yn rhoi enwau pobl allweddol a chyfeiriadau i'r llyfrau pwysig ar y pwnc. Bydd geiriaduron yn eich helpu i greu rhestr o eiriau a chyfystyron i'w defnyddio wrth chwilio am wybodaeth. Efallai bydd rhaid i chi ddefnyddio geiriau penodol i ddod o hyd i wybodaeth arbenigol mewn mynegeion cyfnodolion, ond bydd rhaid defnyddio rhai geiriau mwy cyffredinol i dod o hyd i'r wybodaeth berthnasol mewn llyfrau. Os yw eich pwnc yn pontio sawl disgyblaeth, neu os ydyw mewn maes newydd, yna bydd rhaid i chi feddwl yn greadigol ynglŷn â'r geiriau perthnasol.
Y cam nesaf yw penderfynu faint o wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a pha mor gyfoes, eang a dwfn bydd yn rhaid i'r wybodaeth hynny fod. Os mai paratoi papur ar gyfer seminar ydych, ni fydd rhaid i'ch ymchwil fod mor drwyadl â phe baech yn paratoi traethawd ymchwil.
Chwilio Primo
Rydych nawr yn barod i chwilio. Bydd Primo yn rhoi manylion llyfrau, cyfnodolion, pamffledi a deunydd eraill sydd ar gael yn llyfrgelloedd PA. Ni fydd yn rhoi manylion am erthyglau mewn llyfrau neu gyfnodolion. Os oes gennych restr ddarllen o lyfrau a argymhellir, bydd yn well i chi ddefnyddio'r opsiynau chwilio i ddod o hyd i'r deunydd. Cofiwch, os mai papur mewn llyfr neu gyfnodolyn sydd wedi ei restru yna bydd rhaid i chi chwilio dan awdur/teitl y llyfr neu deitl y cyfnodolyn.
Allweddeiriau
Mae'n well defnyddio amrywiaeth o allweddeiriau er mwyn adeiladu rhestr lawn o deitlau perthnasol; er enghraifft, mae "fish" yn rhoi 510 eitem, ond mae "fishes" yn rhoi 353 eitem hollol wahanol. Nodwch fod y term a gytogwyd "fish?" yn rhoi llawer mwy o eitemau na chyfanswm y ddau yma, sef 3107, gan ei fod yn cynnwys termau nas dymunir fel Fishguard, fishwife etc. – felly mae'n rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r dewis hwn. Gallwch hefyd ddefnyddio termau mwy penodol, e.e. fisheries (1524 eitem), salmon (172), cod (159), ichthyolog? (13). Dyma'r ffordd i adeiladu rhestr gynhwysfawr. Yr unig ffordd y gallwch sicrhau eich bod yn dod o hyd i bopeth yw rhoi cynnig ar gynifer o ffyrdd ag y gallwch.
Rhifau Dosbarth
Bydd Primo yn rhoi lleoliad, rhif dosbarth, y nifer o gopïau sydd gennym ayb. Y rhif dosbarth yw'r rhif a geir o'r system ddosbarthu sy'n sicrhau bod llyfrau ar yr un pwnc yn cael eu cadw gyda'i gilydd ar silffoedd y llyfrgell. Ceir llyfrau sy'n ymwneud yn eang â'r pwnc yn gyntaf, ac fe'u dilynir gan lyfrau sy'n ymwund ag agweddau mwy arbenigol. Fe allwch ddisgwyl fod llyfrau ar bynciau penodol amlwg, megis TELEDU, i gyd yn cael eu cadw gyda'i gilydd ar y silffoedd. Ond yn aml, fodd bynnag, gall gwahanol agweddau o bwnc cael eu gwasgaru. PN1992 yw rhif Llyfrgell y Gyngres am DDARLLEDU TELEDU, ond mae DARLLEDU CHWARAEON yn GV718 a DARLLEDU ADDYSGIADOL yn LB1044.8 ac mae agweddau cymdeithasol TELEDU ar BOBL IFANC yn HQ799.2.T4.
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i eitemau defnyddiol, gallwch chwilio am ragor o ddeunydd trwy ddefnyddio'r opsiwn rhif dosbarth yn yr ymholiad 'Chwiliad Syml'. Bydd hwn yn rhestru rhifau tebyg i'r un a fwydasoch i mewn.
Am ragor o wybodaeth fanylach gweler Deall dosbarthiad y llyfrgell.
Dod o hyd i ddeunydd ar y silffoedd
Mae'n bwysig cofio nad yw holl deunydd y llyfrgell ar bwnc penodol yn cael ei gadw yn yr un man. Mae yna hefyd nifer o Gasgliadau Arbennig a lleoliadau gwahanol i fathau arbennig o ddeunydd. Gall y pwyntiau canlynol fod o gymorth i chi:-
Gallwch gael gafael ar ddeunydd a ddefnyddiwyd neu a ddychwelwyd yn ddiweddar ar y silffoedd trefnu'n bras neu ar y trolïau. Os yw'r catalog yn dweud bod llyfr wedi ei ddychwelyd neu ar gael heddiw, gofynnwch amdano wrth y ddesg fenthyca.
Nodir llyfrau mawr â'r geiriau Qto neu Folio yng nghatalog y llyfrgell. Maent yn cael eu cadw mewn llefydd arbennig - edrychwch ar y cynllun llawr neu gofynnwch i staff y llyfrgell.
Mae rhai llyfrau yn cael eu cadw yn y Casgliad Benthyciadau Byr. Fel arfer mae'r rhain ar restrau darllen ac wedi eu nodi yn y catalog â'r geiriau Short Loan Collection.
Mae gan y llyfrgell gasgliadau o Bamffledi. Nodir y rhain yn y catalog â'r gair Pam ac maent ar gael o'r ddesg fenthyca.
Llyfryddiaethau
Beth yw llyfryddiaethau?
Yn ôl y geiriadur, rhestr o lyfrau gan un awdur neu ar un pwnc yw llyfryddiaeth. Pan fyddwch yn dechrau ar ddarn o waith helaeth sy'n seiliedig ar ymchwil, bydd yn rhaid i chi wneud arolwg manwl o'r llenyddiaeth sydd eisoes wedi ei chyhoeddi ar y pwnc. Mae llyfryddiaethau yn fannau da i ddechrau. Maent yn atodiad i'r rhestrau mwy sylfaenol o weithiau pwysig a geir mewn gwyddoniaduron, trwy roi naill ai restrau dethol neu gynhwysfawr o lyfrau ar rychwant eang o bynciau. Gall eitemau a gynhwysir mewn llyfryddiaeth gael eu dewis mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft, ar sail dyddiad cyhoeddi gyda'r rhestr yn cynnwys holl weithiau a gyhoeddwyd cyn dyddiad arbennig neu ar ôl dyddiad arbennig. Ar y llaw arall, gall gweithiau cael eu dewis oherwydd eu pwysigrwydd i astudio'r pwnc neu am eu bod wedi eu hysgrifennu gan fath arbennig o awdur (e.e. llyfrau gan awduron Prydeinig, gweithiau yn yr iaith Wyddeleg, neu weithiau gan ferched). Fel arfer mae'n amlwg o'r teitl neu'r cyflwyniad ar ba sail y lluniwyd y llyfryddiaeth. Mae gweithiau cynhwysfawr yn ceisio rhestru popeth a ysgrifennwyd am y pwnc.
Mae rhai llyfryddiaethau yn cynnwys nodiadau sydd yn disgrifio cynnwys y gweithiau a restrir. Mae'r rhain yn ddefnyddiol i chi gael teimlad o'r pwnc ac i'ch helpu i benderfynu pa lyfrau i'w defnyddio.
Gan nad yw llyfryddiaethau pwnc yn cael eu llunio'n aml, mae'n debyg y bydd rhaid i chi ddefnyddio llyfryddiaethau a chyfeiriadau y cewch mewn llyfrau diweddar, cyfnodolion neu gyfresi sy'n disgrifio'r datblygiadau diweddaraf mewn amryw o bynciau. Am wybodaeth bellach ynglŷn â llyfryddiaethau ar eich pwnc, gweler tudalennau gwybodaeth pwnc.
Sut i ddod o hyd i lyfryddiaethau
Gallwch ddod o hyd i lyfryddiaethau addas mewn sawl ffordd:
Ychwanegu 'bibliography' neu 'bibliographies' fel allweddair mewn chwiliad allweddair syml ar Primo e.e. historical literature bibliography
Defnyddiwch cyfeirlyfr.
Beth nesaf?
Bydd rhaid i chi ddefnyddio'r llyfryddiaethau ar y cyd â Primo er mwyn gweld pa lyfrau sydd ar gael yn llyfrgelloedd PA.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad eang o lyfrau. Mae catalog microfiche o lyfrau a gyhoeddwyd cyn 1970 ar gael yn LlGC . Mae catalog ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol ar gael ar Primo a chyfrifiaduron PA sydd ar y rhwydwaith. Mae'r catalog yn rhestru'r deunydd a gafodd ei gatalogio o 1986 hyd heddiw.
Gallwch hefyd chwilio catalogau ar-lein llyfrgelloedd eraill. Efallai y bydd hi'n bosibl i chi ddarganfod pa lyfrgelloedd sy'n gryf yn eich maes trwy chwilio cyfeiriaduron ar gyfer llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth sy'n rhoi manylion am gasgliadau arbennig. Mae'r rhain ar gael yng nghasgliadau cyfeirlyfrau lyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry.