ApAber

Mae ApAber yn ap i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; i'w gwneud hi'n haws iddynt gynllunio eu diwrnod

ApAber:

  • yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho
  • ar gael yn ddwyieithog
  • ar gael ar gyfer Android ac iOS
  • wedi’i gynllunio i ddod ag amrywiaeth o wasanaethau yn ymwneud ag astudio ynghyd ar un sgrin

Gall myfyrwyr wirio eu hamserlen; dod o hyd i gyfrifiaduron sydd ar gael ar y campws; gweld balans eu Cerdyn Aber; edrych ar amserlenni bysiau lleol a llawer mwy, y cyfan o’u ffonau symudol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ApAber, gan gynnwys sut i’w lawrlwytho yn ein Cwestiynau Cyffredin.