Cipio Darlithoedd

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd cipio darlithoedd o'r enw Panopto i recordio darlithoedd. Gall myfyrwyr weld y recordiadau hyn drwy Blackboard. Mae Panopto ar gael yn yr holl ystafelloedd dysgu ar yr amserlen ganolog. Gallwch lawrlwytho Panopto ar beiriannau unigol. Gweler y cwestiwn cyffredin yma.

Yn ogystal â recordio darlithoedd, gellir defnyddio Panopto hefyd ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau eraill, megis recordio asesiad myfyrwyr, creu vignette, fideos adolygu neu i grynhoi syniadau cymhleth. Gellir defnyddio Panopto hefyd i recordio gweithgareddau Prifysgol eraill, megis cyfarfodydd – rhowch wybod i ni os hoffech i ni greu ffolder Panopto ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â dysgu.

Yn unol â Pholisi Cipio Darlithoedd Panopto mae recordiadau sydd heb eu gwylio mewn 5 mlynedd yn cael eu dileu yn fisol. Gweler pwynt 8.1 o'r Polisi Cipio Darlithoedd.

 

Cyfle i ddarganfod sut mae Dr Gareth Evans, Darlithydd Theatr a Pherfformio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn defnyddio Panopto i wneud gwaith ymarferol gyda myfyrwyr israddedig. Os hoffech ddefnyddio Panopto mewn ffyrdd mwy arloesol, cysylltwch â ni.