Rhwydweithiau a digwyddiadau

Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o rwydweithiau a digwyddiadau a gefnogir ac a gynhelir gan Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth.

Fforwm Academi Mae Fforwm Academi Aber yn agored i aelodau o gymuned y brifysgol: mae croeso i staff dysgu, tiwtoriaid uwchraddedig, staff gweinyddol / cynorthwyol, a myfyrwyr. Mae'r Fforwm yn darparu llwyfan i rannu arferion da o ran dysgu ac addysgu. 

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol  Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sy'n trefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol y Brifysgol. Mae'r digwyddiad yn gyfle i staff ddod ynghyd ledled y Brifysgol i gyflwyno eu harferion dysgu ac addysgu arloesol. Mae ein blog yn cynnwys gwybodaeth am Gynadleddau Dysgu ac Addysgu blaenorol.  

Gwobr Cwrs Nodedig Diben Gwobr Cwrs Nodedig PA yw cynorthwyo staff i ehangu eu modiwlau ar Blackboard ac fel llwyfan i rannu arferion da. Mae'n bleser gennym arddangos yr enillwyr yn ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Mae enghreifftiau o arfer da a theithiau o fodiwlau ar gael ar ein blog. Gofynnwch am becyn Gwobr Cwrs Nodedig gennym os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y wobr. 

Cynhadledd Fach Mae'r Grŵp E-ddysgu'n cynnal cynadleddau bach yn ogystal â'r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu. Mae'r cynadleddau bach blaenorol wedi canolbwyntio ar themâu megis defnyddio cyfrifiaduron llechen i ddysgu ac addysgu. I gael rhagor o wybodaeth am gynadleddau bach y gorffennol, gweler ein blog. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig thema ar gyfer cynhadledd fach.

Gŵyl Fach Yn ogystal â chynadleddau, mae’r Uned hefyd yn trefnu gwyliau bach; cyfres o sesiynau a gyflwynir dros wythnos neu ddwy ac sy’n ffocysu ar bwnc penodol (e.e. asesu). Cadwch lygad ar ein tudalen archebu DPP a blog yr uned i gael gwybodaeth am wyliau bach yn y dyfodol.