Monitorau Gwybodaeth

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu system o Fonitorau Gwybodaeth i Adrannau eu defnyddio i rannu gwybodaeth.

Gellir defnyddio’r Monitorau Gwybodaeth hyn i ddangos cyfres sy’n cylchdroi o dudalennau i hysbysebu cyrsiau, gwasanaethau ac eitemau newyddion.

Monitor mawr yw’r Monitor Gwybodaeth gyda chyfrifiadur mewnosodedig sy’n rhedeg cyfres o weddalennau.

Yr adrannau sy’n gyfrifol am brynu’r caledwedd a chreu’r cynnwys a bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn:

  • rhoi cymorth i gael a gosod y monitor
  • darparu hyfforddiant a chymorth i greu a diweddaru’r cynnwys
  • rheoli’r gwasanaeth sy’n darlledu’r cynnwys

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn byddwch angen:

  • Monitor Gwybodaeth
  • cyfrif ar infomon.disk.aber.ac.uk
  • eich cynnwys (Sut mae creu hwnnw?)

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth os hoffech gael Monitor Gwybodaeth (Sut mae gwneud hynny?)

Ceir rhagor o wybodaeth am Fonitorau Gwybodaeth yn ein Cwestiynau Cyffredin