Ffonau Symudol

Gall y Gwasanaethau Gwybodaeth ddarparu ffonau symudol a band eang symudol i staff ac adrannau’r Brifysgol drwy gyfrwng contract cystadleuol gydag EE. Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gyfer defnydd personol – fe’i bwriedir ar gyfer ffonau symudol / band eang a ddefnyddir ar gyfer busnes y Brifysgol.

  • Mae rhaid i ddyfeisiau Android a ddarperir gan PA ar gyfer staff gael Proffil Gwaith wedi'i osod.
  • Bydd iPhones/iPads a ddarperir gan PA ar gyfer staff yn cael eu rheoli'n llawn trwy Jamf i gydymffurfio â'r Polisi Rheoli Dyfeisiau

I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu ffonau symudol cysylltwch â ni.