System deleffon Prifysgol Aberystwyth

Y Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n gyfrifol am system ffôn y Brifysgol.

Mae’r gwasanaeth yn defnyddio Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VOIP)

Dyma rai o fanteision y VOIP:

  • mae’n darparu adnoddau ychwanegol, er enghraifft adnabod y galwr, galwadau a fethwyd
  • gwasanaeth Estyniadau Symudol – gallwch fewngofnodi i unrhyw ffôn VOIP ar y campws a defnyddio eich estyniad ffôn
  • mae’n rhoi’r dewis i chi (am gost ychwanegol) gael 2, 6 neu 14 llinell ffôn
  • gyda’r feddalwedd iawn gall eich cyfrifiadur weithredu fel ‘ffôn meddal’ er mwyn i chi allu defnyddio eich estyniad ffôn ar y campws neu oddi arno.
  • mae'n darparu Lleisbost gan ddefnyddio Unity sy’n cyfuno â’ch e-bost

Ceir gwybodaeth ar sut i ddefnyddio ffonau VOIP yn ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin

Lleisbost Cisco Unity

Ym Mhrifysgol Aberystwyth defnyddir Rhwydwaith Ffôn VoIP Cisco a Microsoft Office 365 i ddarparu system Negeseuon Cisco UNITY i chi (Lleisbost)

Mae’r gwasanaeth lleisbost hwn yn galluogi i chi:

  • recordio cyfarchiad personol
  • wirio eich negeseuon lleisbost o ba le bynnag yr ydych
  • gael eich negeseuon lleisbost wedi’u he-bostio i’ch mewnflwch
  • wirio a newid eich dewisiadau lleisbost drwy weddalen
  • wirio eich e-bost a’r apwyntiadau ar eich calendr dros y ffôn
  • recordio cyfarchiadau gwahanol a’u gosod i gael eu chwarae’n awtomatig ar ddyddiadau ac amseroedd penodol
  • roi gwybod i rywun arall os oes negeseuon wedi cael eu gadael ar eich lleisbost
  • ffurfweddu mewnflwch eich lleisbost er mwyn trefnu eich negeseuon fel yr hoffech

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi

  • gael ffôn VOiP
  • gael eich rhif ffôn personol eich hun

Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin

Ffonau Meddal

Mae ffôn meddal yn rhaglen feddalwedd sy'n eich galluogi i ddefnyddio'ch cyfrifiadur a'ch cysylltiad rhyngrwyd i wneud galwadau ffôn yn lle'r set law a’r llinell ffôn arferol.

Manteision ffonau meddal yw:

  • Symudedd - cyn belled â bod gennych gyfrifiadur neu ffôn symudol gyda'r feddalwedd angenrheidiol wedi'i gosod, gallwch wneud a derbyn galwadau fel petaech yn eich swyddfa.
  • Cost - gall defnyddio cysylltiad rhwydwaith sy'n bodoli eisoes i wneud galwadau cysylltiedig â gwaith oddi ar y campws arbed biliau ffôn symudol neu gartref.
  • Cysur - mae defnyddio clustffonau gyda meicroffon, neu'r seinyddion a'r meicroffon sydd wedi'u hadeiladu ar eich dyfais yn gadael eich dwylo’n rhydd i ddefnyddio'r cyfrifiadur wrth i chi siarad a gwrando.

Mae ffonau meddal ar gael:

  • i aelodau o staff PA sydd wedi cofrestru i ddefnyddio ffôn VOIP

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar gyfer gosod a defnyddio ffonau meddal yn y Cwestiynau Cyffredin