Ffrydio Fideos

Gall aelodau o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth drefnu i glipiau ffilm gael eu hychwanegu at weinyddwr ffrydio'r Brifysgol er mwyn iddynt fod ar gael at ddibenion addysgol e.e. trwy Blackboard.

Dyma rai ffynonellau posibl ar gyfer ffilmiau o'r fath:

  • recordiau o ddarlithoed a digwyddiadau eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • recordiau oddi ar yr awyr a drwyddedir gan Drwydded Recordio Addysgol (ERA)
  • casgliadau ar-lein sydd â hawlfraint e.e. Film & Sound Online

Gall staff olygu cyfryngau digidol ar eu cyfrifiaduron eu hunain (neu gyfrifiadur y swyddfa) neu ar y gweithfannau cyhoeddus ar y campws sydd â'r feddalwedd Microsoft Windows Movie Maker Producer.

Os bydd angen, gall y Gwasanaethau Gwybodaeth gynnig gwasanaeth golygu cyfryngau gweledol. Codir tâl am y gwasanaeth hwn. Rhowch gymaint o rybudd â phosibl i'r Gwasanaethau Gwybodaeth os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth hwn; gall prosiectau mawr fod angen o leiaf mis o rybudd.

Cofiwch fod yr orfodaeth hawlfraint yn gryf iawn yn y maes hwn a bod yn rhaid i unrhyw fideos sydd ar gael ar y we fod â chliriad hawlfraint llawn.

Canllawiau cyffredinol:

  • Ni ellir ffrydio fideos neu DVDiau sydd wedi'u recordio o flaen llawn heb gliriad ysgrifenedig gan ddaliwr neu ddalwyr yr hawlfraint
  • Efallai fod gan fideos a gynhyrchwyd yn y cartref broblemau hawlfraint; er enghraifft os ydynt yn cynnwys delweddau, clipiau fideo/sain neu gerddoriaeth gefndir.

Ceir rhagor o fanylion ar weddalennau Cydymffurfio Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth

I drefnu i ffrydio clip ffilm ar weinyddwr ffrydio'r Brifysgol neu i gael cymorth i olygu eich cyfryngau gweledl llenwch y ffurflen gais am wasanaeth.