Fideogynadledda

Mae gan Brifysgol Aberystwyth bedwar lleoliad fideo-gynadledda:

Mae’r rhain yn lleoliadau a gofrestrwyd gyda Gwasanaeth Fideo-gynadledda JANET (JVS)

Archebu

Mae dwy elfen i archebu fideo-gynhadledd:

    • Archebu’r ystafell
      • Mae’r lleoliadau a restrir uchod yn ofodau amlbwrpas felly mae angen eu harchebu gan gyfranwyr Prifysgol Aberystwyth, hyd yn oed os mai cyfranwyr eraill sy’n archebu’r fideo-gynhadledd ei hun.
    • Archebu cyswllt Fideo-gynadledda
      • Mae'r lleoliadau uchod ar restr defnyddwyr cofrestredig Gwasanaeth Fideo-gynadledda JANET (JVS).
      • Dim ond un o'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y gynhadledd sydd angen cysylltu â JVS i wneud archeb. Ar ôl gwneud yr archeb bydd y lleoliadau perthnasol yn cael eu cysylltu'n awtomatig ar ddechrau cyfnod y gynhadledd. Ond, os mai'r sefydliad arall sy'n trefnu i archebu'r gynhadledd, mae hi'n dal yn angenrheidiol ichi archebu'r ystafell ym Mhrifysgol Aberystwyth.
      • Os nad yw'r lleoliad yn rhan o Wasanaeth Fideo-gynadledda JANET, bydd angen cynnwys cyfeiriad IP y lleoliad dan sylw er mwyn creu cyswllt ar ei gyfer. Cofiwch fod angen gwneud hyn ymlaen llaw CYN archebu, a bod angen archebu'n ddigon buan fel y gellir gwneud yr holl drefniadau.
  • Gweithredir archebion ar sail y cyntaf i'r felin.
  • Rhaid archebu'r ystafell am o leiaf 1 awr.

Gallwch wneud archebion, a'u diddymu, ar-lein:

Defnyddio'r adnoddau

  • Os byddwch angen Technegydd yn yr ystafell i baratoi am y gynhadledd, cofiwch ofyn hynny wrth wneud yr archeb. Codir tâl am y gwasanaeth hwn - gweler isod.
  • Mae cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr i'w cael ymhob lleoliad.
  • Ceir ffôn ymhob stiwdio fel y gellir galw am gymorth technegol yn ystod y gynhadledd os oes ei angen - ni chodir tâl am y gwasanaeth hwnnw.
  • Trefnydd y gynhadledd fydd yn gyfrifol am yr archeb, ac ystyrir mai'r trefnydd yw'r sawl sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch yr adnodd.

 Taliadau

Defnyddwyr Prifysgol Aberystwyth

Am ddim

Defnyddwyr allanol

£50 + TAW yr awr

Cymorth technegol

£35 + TAW yr awr

Noder: Bydd defnyddwyr yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'r adnodd a achosir gan esgeulustod ar eu rhan. Felly, dylai defnyddwyr sicrhau fod ganddynt yswiriant priodol.

Timau Microsoft

Mae Timau Microsoft yn rhan o gyfres o raglenni Office365.

Mae'n cynnig offer ar gyfer gweithio ar y cyd, er engraifft:

  • Sgwrs grŵp
  • Cyfarfodydd fideo
  • Rhannu ffeiliau
  • Galwadau grŵp

Mae Timau Microsoft ar gael i bob aelod o staff a myfyrwyr PA sydd â chyfrif ebost PA, a gellir ei gyrchu trwy ap symudol, ap bwrdd gwaith neu borwr gwe.

Mae Timau Microsoft  yn ddelfrydol ar gyfer gweithio gyda grwpiau bach o bobl ar brosiectau tymor byr mewn amgylchedd cyflym ac anffurfiol.  

Gwelir rhagor o wybodaeth ar sut i ddefnyddio Timau Microsoft yn ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Dimau Microsoft

Hyfforddiant ac arweiniad Timau Microsoft