DVD a Fideos

Mae gan y Brifysgol gasgliad helaeth o DVDs i’w benthyca. 

Mae’r casgliad wedi’i leoli ar Lawr F yn Llyfrgell Hugh Owen.

Mae pob eitem yn cael ei hychwanegy at Primo- Catalog y Llyfrgell. a maent ar gael i'w benthyca.

Mae gan bob DVD y rhagddodiad DVD yn y rhif dosbarth ac mae gan Fideos y rhagddodiad VIDEO

Gall aelodau o’r staff dysgu bellach wneud cais i gadw DVDs ar gyfer amser penodol. Mae’r gwasanaeth hwn yn arbennig ar gyfer yr aelodau hynny o’r staff sydd angen DVD ar gyfer sesiwn dysgu. Os ydych yn trefnu i’ch myfyrwyr wylio DVD, dylech fod yn ymwybodol fod yn rhaid i hyn ddigwydd ar dir y Brifysgol ac at ddibenion addysgiadol. I gadw DVD, anfonwch e-bost at gg@aber.ac.uk a fydd yn cadw’r DVD y tu ôl i’r Ddesg Ymholiadau ar Lefel D

Gweler ein tudalen Gwylio DVD/Fideo ar gyfer y cyfleusterau sydd ar gael ar y campws.