Coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf

Yn Nhachwedd 2013 lansiwyd yr archif ddigidol Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig. Cyfranodd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth nifer o ddogfennau gwreiddiol i’r prosiect a gellir eu gweld ar wefan https://www.llyfrgell.cymru/. Ymhlith y deunydd a ddigidwyd mae:

Datblygwyd yr archif gan bartneriaeth o dan arweiniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, BBC Cymru Wales, Casgliad y Werin Cymru ac archifau a chofnodion lleol sy’n rhan o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru, a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Ariannwyd y prosiect â chymorthdal gan gynllun e-Gynnwys Jisc a gyda chefnogaeth y sefydliadau sy’n bartneriaid.