Cyhoeddiadau Ystadegol

Mae casgliad o ddeunyddiau ystadegol, a gyhoeddir gan lywodraethau Prydain a thramor, cyrff rhynglywodraethol a chyhoeddwyr masnachol, ar silffoedd mewn y Storfa Allanol. 

Mae modd cael  mynediad i ddeunydd drwy osod cais ar Primo- Catalog y Llyfrgell.

Dosberthir pob cyhoeddiad yn ôl ei gwmpas daearyddol a’i bwnc. Felly, gellir dod o hyd i gyfrifiad Prydain yn STAT 41 (Prydain) /H (Demograffeg) a ffigyrau allforio Canada yn 71 (Canada) /B (Masnach Ryngwladol). 

Dylech nodi mai yng nghyfres y Papurau Gorchymyn y cedwir yr ychydig gyfresi ystadegol Prydeinig, e.e. ystadegau troseddol, a gyhoeddir fel Papurau Gorchymyn. 

Ceir sawl canllaw i ffynonellau ystadegol. Y canllaw mwyaf defnyddiol ar gyfer Prydain yw’r Guide to Official Statistics a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Ganolog.