Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Addysg: Cyflwyniad

Cyflwyniad

Helo! Fy enw i yw Sarah Gwenlan, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Addysg.

Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.

Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.

Manylion Cyswllt

Profile Photo
Sarah Gwenlan
Manylion cyswllt:
Hugh Owen Library
01970 621870
Cyfryngau cymdeithasol: Facebook Page Twitter Page

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau

Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd

Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau. llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu i archebu apwyntiad ar-lein gyda'ch Llyfrgellydd.

 

Sesiynau galw-heibio wyneb-yn-wyneb

Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio Llyfrgell:

  • Dydd Mawrth, 11yb-12yp: Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen
  • Dydd Iau, 1-3yp: Ystafell 0.11, P5

(yn ystod tymor yn unig)

Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil.

Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynau ataf trwy e-bost neu trefnwch apwyntiad i gwrdd ar-lein drwy Teams neu wyneb-yn-wyneb:

Trefnu Apwyntiad Ar-lein

Eitem chi angen ddim ar gael yn electronig?

Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:

Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.

  • Gallwch gwneud nifer o geisiadau.
  • Byddwn yn prynu yn ddiofyn copïau ychwanegol o unrhyw e-lyfr “defnyddiwr cydamserol” sydd wedi rhedeg allan o gredydau, ac o unrhyw e-lyfr “mynediad i nifer cyfyngedig o ddefnyddwyr” sydd â mwy nag un person yn aros amdano. 

Mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Mynediad oddi ar y campws

Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.

Cyn i chi ddechrau unrhyw chwilio oddi ar y campws:
mewngofnodwch i Primo

undefined

Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.

Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.

I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad). 

Taith o gwmpas eich Llyfrgell: fideo

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo