Cynllun Benthyca Dwyochrog rhwng Llyfrgelloedd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor
Pwy gaiff wneud cais?
Mae holl staff a myfyrwyr presennol Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth yn gymwys i gael breintiau benthyca o dan gynllun benthyca dwyochrog rhwng llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth/Bangor.
Beth allwch chi eu benthyca?
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig y canlynol i ddefnyddwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun hwn:
- Lwfans benthyca: 10 eitem fenthyca safonol
- Cyfnod benthyca: 4 wythnos
- Deunyddiau na cheir eu benthyca na’u defnyddio: benthyciadau cyfyngedig gan gynnwys benthyciadau byr, benthyciad 3-diwrnod, eitemau cyfeirio yn unig, cyfnodolion. Ni cheir mynediad i danysgrifiadau electronig drwy’r cynllun hwn.
- Primo: Catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth
- I gael rhagor o wybodaeth gweler: http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/borrowing/
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnig y canlynol i ddefnyddwyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun hwn:
- Lwfans Benthyca: 10 eitem fenthyca safonol
- Cyfnod Benthyca: 2 wythnos
- Deunyddiau na cheir eu benthyca: benthyciadau cyfyngedig gan gynnwys benthyciadau byr a benthyciad 3-diwrnod; eitemau cyfeirio yn unig; cyfnodolion, llyfrgell y gyfraith; sgoriau cerddoriaeth. Ni cheir mynediad i danysgrifiadau electronig drwy’r cynllun hwn
- Catalog llyfrgell Prifysgol Bangor
- I gael rhagor o wybodaeth gweler: http://www.bangor.ac.uk/library/using/borrow.php.cy?
Sut i fenthyca
- Mae’n rhaid i ddarpar fenthycwyr fod â cherdyn llyfrgell/cerdyn adnabod Prifysgol presennol yn eu sefydliad cartref
- Mae’n rhaid i unigolion sy’n cofrestru i gael benthyca o lyfrgell Prifysgol arall drwy’r cynllun hwn lenwi ffurflen gais cynllun benthyca dwyochrog rhwng llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth/Bangor (noder fod angen dyddiad, llofnod a stamp llyfrgell swyddogol i wneud cais am gerdyn).
- Mae’n rhaid i’r unigolyn gyflwyno’r cerdyn adnabod ffoto sefydliadol, prawf o’u cyfeiriad a ffurflen gais wedi’i llenwi wrth Ddesg Ymholiadau/ Cylchrediad y llyfrgell fenthyca pan fyddant yn cofrestru am y tro cyntaf.
- Gallai’r llyfrgell fenthyca gymryd llun digidol o’r defnyddiwr sy’n gwneud cais, cofrestru’r defnyddiwr ar gyfer breintiau benthyca, a rhoi cerdyn benthyca’r cynllun benthyca dwyochrog rhwng llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth/Bangor iddynt.
- Bydd y llyfrgell fenthyca yn sefydlu dyddiad gorffen penodol ar gyfer y breintiau, na fydd yn hwyrach na’r dyddiad gorffen sydd wedi’i argraffu ar y cerdyn adnabod sefydliadol os cewch chi un.
- Gall y llyfrgell fenthyca wrthod adnewyddu breintiau benthyca unigolyn os oes ganddynt unrhyw ddirwyon neu lyfrau’n ddyledus ar eu cofnod.