Ystafelloedd astudio unigol a grŵp

Carelau Astudio

Mae nifer cyfyngedig o garelau ar gael yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry i uwchraddedigion ymchwil sydd angen lle i wneud defnydd helaeth o ddeunyddiau’r llyfrgell. Mae gan y carelau hyn socedi er mwyn i chi allu cysylltu’ch cyfrifiadur â rhwydwaith y Brifysgol.

Ceir rhai carelau yn Llyfrgell y Gyfraith hefyd. Mae uwchraddedigion y Gyfraith yn cael blaenoriaeth dros y carelau hyn, ond os nad ydynt wedi cael eu harchebu gall uwchraddedigion o adrannau eraill eu harchebu ar yr un telerau ag uchod. Os oes carelau yn dal i fod ar gael yn Llyfrgell y Gyfraith, gall unrhyw fyfyriwr eu harchebu ar sail wythnosol – sef £2.50 yr wythnos a chodir tâl o £20 am yr allwedd, sy’n cael ei ad-dalu. Mae’n rhaid talu costau llawn os ydych yn colli allwedd.

Cost defnyddio’r carelau ar hyn o bryd yw £10.00 y mis a chodir tâl o £20.00 am yr allwedd, ond caiff yr arian hwn ei ad-dalu. Mae’n rhaid talu costau llawn os ydych yn colli allwedd.

Yn ychwanegol ceir dwy garel ar Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen gyda chyfrifiaduron y gall unrhyw fyfyriwr eu llogi’n ddyddiol ar sail y cyntaf i’r felin .Codir blaendal o £5 am yr allwedd, sy’n cael ei ad-dalu, a rhaid talu costau llawn os collir allwedd.

Gwnewch gais yn y Ddesg Ymholiadau yn Hugh Owen neu yn y Ddesg Wybodaeth yn Thomas Parry. O ganlyniad i alw mawr yn ystod rhai adegau o’r flwyddyn, efallai y bydd yn rhaid aros rhywfaint tan y bydd carel ar gael.

Carel Cerdyn Gwyrdd

Mae carel ar gael yn Llyfrgell y Gyfraith i ddefnyddwyr cerdyn gwyrdd cofrestredig. Mae’r carel yn cynnwys cyfrifiadur a desg gymwysadwy. Nid oes raid archebu o flaen llaw a chewch ddefnyddio’r ystafell ar sail y cyntaf i’r felin.

Ystafelloedd astudio i grwpiau

Hugh Owen – Mae ardaloedd astudio ffrynt gwydr ar gael rhwng y carelau ar lawr F yn Llyfrgell Hugh Owen a rhoddir blaenoriaeth i grwpiau astudio yn hytrach nag unigolion. Nid oes raid archebu.

Thomas Parry – Mae ystafell astudio i grwpiau ar gael, sy’n cynnwys cyfrifiadur a thaflunydd. Gellir archebu’r ystafell yn y ddesg ymholiadau. Noder, os hoffech ddefnyddio’r taflunydd, bydd yn rhaid i chi roi rhybudd o flaen llaw i ni er mwyn i ni allu ei osod i chi.

Ystafell Joy Welch

Mae’r ystafell hon, ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, yn dal i fyny hyd at 15 o bobl. Gellir ei harchebu drwy’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Llyfrgell Hugh Owen