Dirwyon Llyfrgell

Codir dirwyon os nad ydych yn dychwelyd eich benthyciadau llyfrgell erbyn y dyddiad dychwelyd. Gallwch weld manylion dyddiadau dychwelyd eitemau, unrhyw ddirwyon sy’n ddyledus, a thalu unrhyw ddirwyon drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif yng nghatalog y llyfrgell, Primo

Pam ydym yn pennu dirwyon?

Mae’r galw am ddeunydd llyfrgell yn cynyddu’n barhaus. Felly, mae’n bwysig bod ein defnyddwyr yn medru cael gafael ar eitemau sydd eu hangen arnynt cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae ein system dirwyon yn annog pobl i ddychwelyd deunydd llyfrgell pan ddaw’r cyfnod benthyca i ben fel nad ydynt yn rhwystro eraill rhag eu benthyca.

Codir y dirwyon canlynol am eitemau a ddychwelir yn hwyr

Statws y benthyciadDirwy
Benthyciad Safonol (14 diwrnod) 20p y dydd
50p y dydd os y’i gelwir yn ôl 
Benthyciad Tri Diwrnod 50p y dydd
Benthyciad Un Diwrnod £1.00 y dydd
Fideos (1 diwrnod) 20p y dydd
Llyfrau Benthyciad Byr (10 awr) 50p yr awr
Benthyciad Byr  DVDau (a ddefnyddir yn aml) (15 awr) 50p yr awr
DVDau 3 Diwrnod  50p yr awr

Talu dirwyon llyfrgell

Ar-lein:

Talu ag arian parod yn:

  • Llyfrgell Hugh Owen – dalwch eich dirwyon llyfrgell mewn arian parod gan ddefnyddio’r peiriant hunan-fenthyca ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol – Desg Benthyciadau
  • Llyfrgell Thomas Parry – Desg Benthyciadau

Talu â cherdyn credyd

  • Ffoniwch 01970 622400 rhwng 
    9 y bore a 5 y prynhawn dydd Llun - dydd Iau
    9 y bore a 4 pm ar ddydd Gwener
  • Nodwch fod y gwasanaeth hwn ar gyfer dirwyon gwerth £10 a mwy (£5 ar gyfer Dysgwyr o Bell)

Sut i osgoi dirwyon?

  • Gellir gwirio dyddiadau dychwelyd ac adnewyddu benthyciadau ar lein 24/7 trwy gyfrwng Primo http://primo.aber.ac.uk. Cliciwch ar Mewngofnodwch ar ochr dde brig y ddalen, gan roi eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth ac yna dewiswch Fy Nghyfrif o frig y ddalen.
  • Gwiriwch eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd am negeseuon o’r Llyfrgell ynglŷn ag adalw llyfrau a llyfrau hwyr. Gall eitemau sydd ar Fenthyciad Safonol gael eu galw’n ôl cyn y dyddiad dychwelyd os oes rhywun arall wedi gwneud cais amdanynt.
  • Argraffwch a chadwch dderbynneb i’ch atgoffa o ddyddiad dychwelyd y llyfr.
  • Peidiwch â rhoi benthyg eich Cerdyn Aber i neb arall – chi sy’n gyfrifol am yr holl eitemau hwyr ar eich cyfrif.
  • Gellir defnyddio’r Blwch Llyfrau y tu allan i brif fynedfa Llyfrgell Hugh Owen pan fo’r llyfrgell ar gau
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch benthyciadau cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosib