“Cyfeillion y Llyfrgell”

Helpwch Llyfrgell y Brifysgol

Y Llyfrgell yw calon y Brifysgol. Os yw’n dihoeni yna mae ansawdd dysgu ac ymchwil yn dirywio. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi brwydro’n galed i gynnal safon casgliadau’r llyfrgell ac rydym yn falch o weld bod gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn cael eu hystyried fel y gorau yng Nghymru yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol. Mae llyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth effeithiol yn hanfodol os ydym am ddenu’r myfyrwyr gorau a darparu cymorth hanfodol ar gyfer ymchwil o’r radd flaenaf. Mae’r rhain yn faterion o bwys os yw’r Brifysgol i barhau’n gystadleuol dros y ddegawd nesaf.

Yn dilyn tân dinistriol yn yr Hen Goleg yn 1885 gwnaeth y prifathro, Thomas Charles Edwards, fynd ati i godi arian yn yr Unol Daleithiau ar gyfer llyfrgell newydd yn yr Hen Goleg. Heddiw wrth i’r llywodraeth leihau’r gefnogaeth i addysg uwch a chostau deunydd llyfrgell, deunydd print ac electronig fel ei gilydd, yn parhau i godi ymhell tu hwnt i gyfradd chwyddiant, mae gwir angen cefnogaeth o ffynhonellau preifat arnom. Am y rheswm hwn rydym yn gofyn ichi ystyried cyfraniad blynyddol o £25 neu fwy i sefydlu cynllun “Cyfeillion y Llyfrgell”. Bwriad y cynllun yw ein galluogi i godi arian ar gyfer prynu ychwanegiadau sylweddol i gasgliadau’r llyfrgell – pa un ai yn ddeunydd printiedig neu’n ddeunydd ar ffurf electronig.

Yn ogystal â’r boddhad o gyfrannu tuag at gasgliadau’r Llyfrgell bydd cyfeillion hefyd yn derbyn nifer o fuddiannau nodedig fel cydnabyddiaeth o’u cefnogaeth.

  • Yr hawl i gofrestru fel Benthycwr Cyswllt – mae hyn yn eich galluogi i fenthyca i fyny hyd at 6 o lyfrau sydd ar fenthyciad safonol am bythefnos ar y tro. Noder mai’r benthycwr fydd yn gyfrifol am gostau postio.
  • Copi o Gylchlythyr Gwasanaethau Gwybodaeth a gyhoeddir ddwy waith y flwyddyn sy’n amlinellu datblygiadau a gweithgareddau newydd ynghyd ag erthyglau arbennig ar eitemau sydd yn ein casgliadau.
  • Gwahoddiad i arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig a gynhelir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth trwy gydol y flwyddyn

  • Cedwir cyfrol arbennig yn cynnwys enwau’r Cyfeillion.

Os gwelwch yn dda helpwch ni i gynnal a gwella safon casgliadau a gwasanaethau ein llyfrgell er budd myfyrwyr ac academyddion y dyfodol trwy gwblhau’r ffurflen isod a’i dychwelyd ynghyd â ‘ch siec – yn daladwy i Brifysgol Aberystwyth – at y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ. Edrychwn ymlaen at eich croesawu fel Cyfaill y Llyfrgell.

Apêl "Cyfeillion y Llyfrgell" (Cymraeg)